Yn ystod y Pedwerydd Cynulliad, craffodd y Cynulliad ar 28 o Filiau a'u pasio'n Ddeddfau. Hefyd, methodd 3 Bil ar ddiwedd y Pedwerydd Cynulliad a gwrthodwyd 1 Bil gan y Cynulliad. Hefyd, cafwyd llawer o is-ddeddfwriaeth y craffwyd arno ac a ddaeth i rym yn ystod y Pedwerydd Cynulliad
Deddfau
Cafodd Deddfau canlynol y Cynulliad Gydsyniad Brenhinol yn ystod y Pedwerydd Cynulliad (Mai 2011 - Mai 2016)
Cyflwynwdwyd gan Lywodraeth Cymru
- Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016
- Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016
- Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016
- Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016
- Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016
- Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 2015
- Deddf Cymwysterau Cymru 2015
- Deddf Cynllunio (Cymru) 2015
- Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015
- Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015
- Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015
- Deddf Tai (Cymru) 2014
- Deddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014
- Deddf Addysg (Cymru) 2014
- Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
- Deddf Rheoli Ceffylau (Cymru) 2014
- Deddf Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2014
- Deddf Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru) 2014
- Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013
- Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013
- Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013
- Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013
- Deddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013
- Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013
- Deddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012
Cyflwynwyd gan Aelod o'r Cynulliad
Cyflwynwyd gan y Cynulliad
Biliau a wrthodwyd gan y Cynulliad
Gwrthodwyd y Biliau a ganlyn gan y Pedwerydd Cynulliad ac ni chynhelir unrhyw drafodion pellach mewn perthynas â’r Biliau hyn. Rheol Sefydlog 26.76
Biliau a fethodd
Methodd y Biliau canlynol ar ddiwedd y Pedwerydd Cynulliad o dan Reol Sefydlog 26.76
- Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru)
- Bil Safleoedd Carafannau Gwyliau (Cymru)
- Bil Addysg a Chynhwysiant Ariannol (Cymru)
Is-ddeddfwriaeth
Mae is-ddeddfwriaeth yn gyfraith a wneir gan Weinidogion o dan bwerau dirprwyedig Ddeddf neu Fesur y Cynulliad neu Ddeddf Seneddol. Mae gweithdrefnau’r Cynulliad sy’n berthnasol i’r rhan fwyaf o is-ddeddfwriaeth yn y Pedwerydd Cynulliad i’w gweld yn Rheol Sefydlog 27.
Is-ddeddfwriaeth dy'n agored i gael ei dirymu
Bydd y rhan fwyaf o is-ddeddfwriaeth yn agored i gael ei dirymu (sef y weithdrefn negyddol). Mae'r ddeddfwriaeth hon yn dod yn weithredol yn awtomatig oni fydd y Cynulliad yn penderfynu ei diddym.
Is-ddeddfwriaeth sy'n agored i gael ei chymeradwyo
Mae rhai mathau o ddeddfwriaeth yn destun cymeradwyaeth (y weithdrefn gadarnhaol) ac mae'n rhaid i'r Cynulliad eu cymeradwyo'n ffurfiol cyn iddynt ddod i rym.u.
Is-ddeddfwriaeth sy'n ddarostyngedig i ofynion penodol
Mae cyfran fach iawn o is-ddeddfwriaeth yn ddarostyngedig i weithdrefnau penodol a nodir yn y Ddeddf neu'r Mesur sy'n cynnwys y pwer i'w wneud. Mae hyn yn cynnwys deddfwriaeth sy'n ddarostyngedig i'r weithdrefn 'uwchgadarnhaol'.
Offerynnau Statudol a wnaed ar y cyd â Gweinidogion y DU
Rhaid i offerynnau a wneir ar y cyd gan Weinidogion Cymru a Gweinidogion y DU a Senedd y DU gael eu gosod gerbron y Cynulliad a Senedd y DU. Mae'r rhain i'w gweld
Torri'r rheol 21 diwrnod
Rhaid gosod darn o is-ddeddfwriaeth gerbron y Cynulliad Cenedlaethol o leiaf 21 diwrnod cyn iddi ddod yn weithredol. Os bydd y rheol hon yn cael ei thorri, rhaid i'r Gweinidog perthnasol hysbysu'r Llywydd o'r rhesymau dros hynny. Mae'r llythyrau hyn i'w gweld
Is-ddeddfwriaeth arall
Mae rhai mathau o is-ddeddfwriaeth yn cynnwys deddfwriaeth nad oes unrhyw weithdrefn ffurfiol wedi'i phennu ar ei chyfer ac eithrio'i gosod gerbron y Cynulliad.
Gorchmynion Cychwyn
Math o Offeryn Statudol yw Gorchymyn Cychwyn sy'n nodi bod holl ddarpariaethau Deddf Cynulliad, neu rai ohonynt, yn dod i rym, a hynny ar ddyddiad a nodir yn y Gorchymyn. Os nad oes Gorchymyn Cychwyn yn bod, daw'r Ddeddf i rym ar y diwrnod y ceir Cydsyniad Brenhinol neu ar ddyddiad a bennir yn y Ddeddf. Mae Llywodraeth Cymru yn hysbysu'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol am Orchmynion Cychwyn ond nid ydynt yn cael eu gosod gerbron y Cynulliad ac nid yw'r Pwyllgor yn craffu arnynt ychwaith fel arfer.
Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor o dan Adran 109 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006
Mae Adran 109 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn rhoi pŵer i'w Mawrhydi, drwy Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor, i ddiwygio Atodlen 7 i Ddeddf 2006, os yw'r Gorchymyn eisoes wedi'i gymeradwyo gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a dau Dŷ'r Senedd.
Mae Rheol Sefydlog 25 yn darparu ar gyfer y weithdrefn sydd i'w dilyn mewn perthynas ag ystyried Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor sydd i'w gwneud o dan adran 109 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.