Caiff Aelodau'r Senedd wneud cais ar unrhyw adeg i ofyn Cwestiwn Brys i Aelod o Lywodraeth Cymru neu Gomisiwn y Senedd yn ystod Cyfarfod Llawn. Er hynny, dim ond os bydd y Llywydd (neu'r Dirprwy Lywydd os yw'r cwestiwn yn ymwneud â Chomisiwn y Senedd) yn fodlon bod y cwestiwn o bwys cenedlaethol brys.
Cyflwynwyd y Cwestiynau Brys ar eu ffurf newydd yn y Cynulliad ym mis Mai 2017, ynghyd â Chwestiynau Amserol. Mae'r gweithdrefnau newydd hyn yn disodli'r drefn flaenorol ar gyfer gofyn Cwestiynau Brys.
Cwestiynau Brys 2023
Dyddiad Cyflwyno | Cwestiwn Brys | Penderfyniad |
5 Rhagfyr 2023 |
I ofyn i'r Prif Weinidog Laura Anne Jones (Dwyrain De Cymru) Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael â Heddlu De Cymru ynghylch ymosodiad difrifol yn Aberfan sydd wedi arwain at gau ysgolion? |
Heb ei ganiatáu |
1 Tachwedd 2023 |
I ofyn i'r Prif Weinidog Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Tata ynglŷn â'r adroddiadau yr wythnos hon am gau'r pen trwm yng ngwaith dur Port Talbot o fewn y flwyddyn ariannol hon? |
Heb ei ganiatáu |
24 Hydref 2023 |
I ofyn i'r Gweinidog Newid Hinsawdd Janet Finch-Saunders (Aberconwy) A wnaiff y Gweinidog ddatganiad brys am effaith ddinistriol y llifogydd diweddar yng Nghymru oherwydd Storm Babet? |
Heb ei ganiatáu |
10 Hydref 2023 |
I ofyn i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru) A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyhoeddiad y Swyddfa Gartref i beidio â bwrw ymlaen â'r cynlluniau i roi llety i geiswyr lloches yng Ngwesty Parc y Strade yn Llanelli? |
Heb ei ganiatáu |
2 Hydref 2023 |
I ofyn i Weinidog yr Economi Heledd Fychan (Canol De Cymru) A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cyhoeddiad gan Grŵp UK Windows and Doors ynghylch colledion swyddi yn Rhondda Cynon Taf? |
Heb ei ganiatáu |
20 Medi 2023 |
I ofyn i'r Gweinidog Newid Hinsawdd Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru) A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y bydd y cyhoeddiad diweddar gan Lywodraeth y DU ei bod yn ystyried gohirio'r gwaharddiad ar werthu ceir petrol a diesel newydd tan 2035 yn effeithio ar ymrwymiadau sero net Cymru? |
Wedi ei ganiatáu |
19 Medi 2023 |
I ofyn i'r Prif Weinidog Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU cyn i Lywodraeth y DU gyhoeddi buddsoddiad yn y diwydiant gwneud dur ym Mhort Talbot a fyddai'n arwain at golli miloedd o swyddi? |
Heb ei ganiatáu |
19 Medi 2023 |
I ofyn i Weinidog yr Economi Luke Fletcher (Gorllewin De Cymru) A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y posibilrwydd o golli 3,000 o swyddi yn TATA Steel ym Mhort Talbot? |
Heb ei ganiatáu |
13 Medi 2023 |
I ofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Mabon ap Gwynfor (Dwyfor Meirionnydd) A wnaiff y Gweinidog ddatganiad llafar yn dilyn cyhoeddiad heddiw ynghylch uwchgyfeirio a threfniadau ymyrraeth mewn byrddau iechyd ledled Cymru? |
Heb ei ganiatáu |
5 Gorffennaf 2023 |
I ofyn i Weinidog yr Economi Sarah Murphy (Pen-y-bont ar Ogwr) A wnaiff y Gweinidog ddatganiad mewn ymateb i'r cyhoeddiad gan Zimmer Biomet y bydd yn rhoi'r gorau i weithgynhyrchu yn ei ffatri ym Mhen-y-bont ar Ogwr? |
Heb ei ganiatáu |
23 Mai 2023 |
I ofyn i Weinidog yr Economi Andrew RT Davies (Canol De Cymru) Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael gyda Heddlu De Cymru ynghylch terfysgoedd yng Nghaerdydd dros y 24 awr ddiwethaf? |
Wedi ei ganiatáu |
9 Mai 2023 |
I ofyn i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am oblygiadau'r Ddeddf Trefn Gyhoeddus ar gyfer yr hawl i brotestio yng Nghymru, yn dilyn arestio protestwyr heddychlon yn y Coroni? |
Heb ei ganiatáu |
27 Chwefror 2023 |
I ofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol gwasanaethau iechyd yng Ngogledd Cymru yn dilyn ymddiswyddiad aelodau annibynnol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a'r penderfyniad i roi'r bwrdd iechyd mewn mesurau arbennig unwaith eto? |
Heb ei ganiatáu |
31 Ionawr 2023 |
I ofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am adroddiad panel ansawdd gwasanaethau fasgwlaidd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a gafodd ei gyhoeddi heddiw?
|
Heb ei ganiatáu |
16 Ionawr 2023 |
I ofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am adroddiad panel ansawdd gwasanaethau fasgwlaidd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a gafodd ei gyhoeddi heddiw?
|
Heb ei ganiatáu |
Cwestiynau Brys 2022
Dyddiad Cyflwyno | Cwestiwn Brys | Penderfyniad |
---|---|---|
12 December 2022 |
I ofyn i'r Prif Weinidog A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynnal y ddarpariaeth o wasanaethau iechyd brys yn dilyn tywydd eithafol a galw digynsail ledled Cymru sydd wedi cyfyngu ar allu Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i ymateb i alwadau mewn modd diogel ac amserol? |
Heb ei ganiatáu |
6 Rhagfyr 2022 |
I ofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Janet Finch-Saunders (Aberconwy) A wnaiff y Gweinidog ddatganiad brys ar nifer difrifol yr achosion o strep A a'r dwymyn goch sy'n cylchredeg yng Nghymru? |
Heb ei ganiatáu |
28 Mehefin 2022 |
I ofyn i'r Prif Weinidog A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fwriad Llywodraeth y DU i ddiddymu Deddf yr Undebau Llafur (Cymru) 2017? |
Heb ei ganiatáu |
28 Mawrth 2022 |
I ofyn i'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Janet Finch-Saunders (Aberconwy) A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddarparu ymateb brys i'r gyfres o fethiannau difrifol ar gyfer cannoedd o deithwyr rheilffordd a oedd yn teithio i dde Cymru ddoe?
|
Heb ei ganiatáu |
9 Mawrth 2022 |
I ofyn i Weinidog yr Economi A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am brosiect y Cymoedd Technoleg ymhellach i gyfarfod craffu ar y gyllideb yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a ddywedodd y byddai'r prosiect yn cael ei gau? |
Heb ei ganiatáu |
25 Chwefror 2022 |
I ofyn i'r Prif Weinidog A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad brys am y goblygiadau i Gymru o ymosodiad Rwsia ar Wcráin? |
Heb ei ganiatáu |
25 Chwefror 2022 | I ofyn i'r Prif Weinidog
Mike Hedges (Dwyrain Abertawe) A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar yr argyfwng yn Wcráin? |
Heb ei ganiatáu |
24 Chwefror 2022 |
I ofyn i'r Prif Weinidog Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy) A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith ymosodiad Rwsia ar Wcráin ar ddinasyddion a busnesau Cymru? |
Wedi ei ganiatáu |
Cwestiynau Brys 2021
Dyddiad Cyflwyno | Cwestiwn Brys | Penderfyniad |
---|---|---|
6 Rhagfyr 2021 |
I ofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Jane Dodds (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Pa adnoddau a chanllawiau y mae Llywodraeth Cymru'n eu darparu i awdurdodau lleol ac asiantaethau statudol eraill i nodi pryderon posibl ynghylch diogelu plant, yn dilyn marwolaeth Arthur Labinjo-Hughes yn Solihull? |
Heb ei ganiatáu |
19 Hydref 2021 |
I ofyn i'r Gweinidog Newid Hinsawdd Samuel Kurtz (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro) Pa effaith y bydd adolygiad o ffyrdd Llywodraeth Cymru yn ei chael ar welliannau sydd eisoes ar y gweill ar yr A40: ffordd osgoi Llanddewi Felffre i Redstone Cross? |
Heb ei ganiatáu |
6 Gorffennaf 2021 | I ofyn i'r Gweinidog Newid Hinsawdd
Janet Finch-Saunders (Aberconwy) A wnaiff y Gweinidog ddatganiad yn ymateb i’r galwadau gan arweinwyr y 22 o awdurdodau lleol Cymru i Lywodraeth Cymru adolygu pwerau a chylch gwaith Cyfoeth Naturiol Cymru? |
Heb ei ganiatáu |
26 Mai 2021 |
I ofyn i'r Prif Weinidog Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith bosibl cytundeb masnach heb dariffau na chwotâu gydag Awstralia ar ddyfodol amaethyddiaeth yng Nghymru? |
Heb ei ganiatáu |
26 Mai 2021 |
I ofyn i'r Prif Weinidog Tom Giffard (Gorllewin De Cymru) Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i gymuned Mayhill yn dilyn digwyddiadau nos Iau ac i atal y golygfeydd pryderus hyn rhag digwydd eto? |
Heb ei ganiatáu |