Mae'r Senedd yn arsylwi cyfnod o alaru cenedlaethol yn dilyn marwolaeth Ei Mawrhydi Y Frenhines. Mae busnes y Senedd wedi'i ohirio ac ni fydd mynediad cyhoeddus i adeilad y Senedd tan ar ôl yr Angladd Gwladol.
Deisebau
Mae deisebu’r Senedd yn ffordd o godi mater sydd o bwys i chi.
Gall fod yn ffordd effeithiol o dynnu sylw’r Senedd a Llywodraeth Cymru at fater neu awgrymu dull neu bolisi newydd y gellir ei roi ar waith yng Nghymru. Gallwch ddechrau deiseb ar ein gwefan neu gefnogi deisebau eraill trwy eu llofnodi.
Mae set o safonau penodol ar gyfer deisebau, gan gynnwys bod yn rhaid iddynt alw am gamau gweithredu sydd o fewn pwerau’r Senedd neu Lywodraeth Cymru.
Bydd deisebau sydd â digon o gefnogwyr yn cael eu cyfeirio at y Pwyllgor Deisebau. Bydd y Pwyllgor Deisebau’n trafod y dystiolaeth ac yn penderfynu beth y gall ei wneud i fynd â’r ddeiseb ymhellach.