Rôl y Pwyllgor Deisebau

Cyhoeddwyd 28/08/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/11/2024   |   Amser darllen munudau

Mae'r Senedd wedi sefydlu'r Pwyllgor Deisebau i ystyried yr holl ddeisebau newydd a derbyniadwy, a phenderfynu ar y camau i'w cymryd.

Fel rhan o’r broses o drafod eich deiseb, mae’r Pwyllgor Deisebau yn gallu:

  • ysgrifennu atoch i gael rhagor o wybodaeth;
  • eich gwahodd i siarad â’r Pwyllgor am y ddeiseb;
  • gofyn am dystiolaeth gan Lywodraeth Cymru neu bobl neu sefydliadau perthnasol eraill;
  • pwyso ar Lywodraeth Cymru i weithredu;
  • tynnu sylw un o bwyllgorau eraill y Senedd at y ddeiseb;
  • cynnig cyflwyno’r ddeiseb ar gyfer dadl;
  • cynnal ymchwiliad manwl a chyhoeddi adroddiad ar y pwnc.

Cysylltu â ni

Gall y Pwyllgor Deisebau helpu i’ch tywys drwy'r broses ddeisebu. Os oes angen cymorth neu ragor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â: