Mae'r Senedd yn arsylwi cyfnod o alaru cenedlaethol yn dilyn marwolaeth Ei Mawrhydi Y Frenhines. Mae busnes y Senedd wedi'i ohirio ac ni fydd mynediad cyhoeddus i adeilad y Senedd tan ar ôl yr Angladd Gwladol.
Beth yw Pwyllgor y Senedd?
Grwpiau bach o Aelodau o’r Senedd yw Pwyllgorau. Maen nhw’n trafod materion pwysig sy’n effeithio ar fywydau pobl yng Nghymru.
Mae gwaith Pwyllgorau yn cynnwys:
- gwirio a herio gwaith y Llywodraeth, drwy gynnal ymchwiliadau sy’n edrych ar weithredoedd a gwariant Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill.
- craffu ar gyfreithiau cyn ac ar ôl iddynt gael eu pasio, a chynnig newidiadau iddynt os yw’r Pwyllgorau o’r farn bod angen eu gwella.
- clywed gan ddinasyddion, sefydliadau ac arbenigwyr i gael eu safbwyntiau gwerthfawr a'u profiadau personol o ran pynciau sydd o bwys iddynt.
- cynnal gwaith yn agored, sicrhau bod Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill yn atebol yn gyhoeddus am eu gweithredoedd a’u penderfyniadau.