Mae’n gweithredu dan gyfarwyddyd a chyfeiriad y Llywydd a phedwar Aelod o'r Senedd arall sy’n cynrychioli’r pleidiau gwleidyddol eraill. Caiff gweithrediadau o ddydd i ddydd eu dirprwyo i Glerc a Phrif Weithredwr y Senedd.
Mae hyn yn cynnwys ystod eang o weithgareddau yn cynnwys:
- Darparu swyddfeydd, cyfleusterau, cyfarpar a gwybodaeth y mae eu hangen ar Aelodau’r Senedd i wneud eu gwaith;
- Cefnogi Pwyllgorau’r Senedd a’r Cyfarfod Llawn drwy roi cyngor ar weithdrefnau, cyngor cyfreithiol a chyngor arall;
- Darparu gwasanaethau cyfieithu, cyfieithu ar y pryd a gwasanaethau cofnodi sy’n sicrhau y gall y Senedd weithredu yn Gymraeg a Saesneg;
- Darparu gwybodaeth ac addysg am y Senedd i’r cyhoedd; a
- Darparu gwybodaeth ac addysg i’r cyhoedd am rôl seneddol y Senedd a thrwy drefnu ymweliadau â’r Senedd ac oddi yno.
Nid gweision sifil yw staff y Senedd. Maent yn annibynnol o’r Llywodraeth a gweithredant yn ddiduedd ar ran y Senedd.