Mae tri math o rôl rydym yn recriwtio ar eu cyfer, ac mae gan bob math gyflogwr gwahanol, sy'n golygu bod y telerau ac amodau cyflogaeth yn wahanol.

  1. Mae Comisiwn y Senedd yn cyflogi pobl sy'n cefnogi gwaith y Senedd a'i Haelodau. Mae'r rhan fwyaf o'r swyddi wedi eu lleoli yng Nghaerdydd neu ogledd Cymru.
  2. Mae Aelodau'r Senedd hefyd yn gyflogwyr ac maent yn arferol yn cyflogi pobl yn eu hetholaethau ac ym Mae Caerdydd.
  3. Rydym yn gyfrifol am wneud penodiadau i rai swyddi cyhoeddus, i gyrff eraill ac i swyddi unigol.

I bwy y gallaf weithio iddo?

Ty allan y Senedd

Mae hyn yn cynnwys ystod eang o weithgareddau yn cynnwys:

  • Darparu swyddfeydd, cyfleusterau, cyfarpar a gwybodaeth y mae eu hangen ar Aelodau’r Senedd i wneud eu gwaith;
  • Cefnogi Pwyllgorau’r Senedd a’r Cyfarfod Llawn drwy roi cyngor ar weithdrefnau, cyngor cyfreithiol a chyngor arall;
  • Darparu gwasanaethau cyfieithu, cyfieithu ar y pryd a gwasanaethau cofnodi sy’n sicrhau y gall y Senedd weithredu yn Gymraeg a Saesneg;
  • Darparu gwybodaeth ac addysg am y Senedd i’r cyhoedd; a
  • Darparu gwybodaeth ac addysg i’r cyhoedd am rôl seneddol y Senedd a thrwy drefnu ymweliadau â’r Senedd ac oddi yno.

Nid gweision sifil yw staff y Senedd. Maent yn annibynnol o’r Llywodraeth a gweithredant yn ddiduedd ar ran y Senedd.

Darganfyddwch Mwy

Cyfleoedd Eraill

Grŵp yn trafod

Prentisiaethau

Byddwch yn rhan o rywbeth y gallwch ymfalchïo ynddo

Mae pob prentisiaeth yn Senedd Cymru yn unigryw.

Ni waeth a oes gennych weledigaeth glir ar gyfer y dyfodol neu eich bod heb benderfynu eto beth hoffech ei wneud, mae gennym lawer o ffyrdd o'ch helpu i ddod o hyd i rywbeth addas i chi a fydd yn eich helpu i ragori.

Gan ddilyn rhaglen a gynlluniwyd yn ofalus, byddwch chi'n dysgu gan y bobl y byddwch chi'n gweithio gyda nhw bob dydd.

Byddwch yn datblygu eich sgiliau, cwrdd â phobl newydd, a datblygu eich gallu i weithio mewn gweithle prysur.

Rhagor o Wybodaeth