Meysydd o Ddiddordeb Ymchwil - Hysbysiad preifatrwydd

Cyhoeddwyd 27/07/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Comisiwn y Senedd yw’r rheolydd data ar gyfer y wybodaeth rydych yn ei rhoi, a bydd yn sicrhau y caiff ei diogelu a'i defnyddio yn unol â’r ddeddfwriaeth diogelu data.

Dylid anfon unrhyw ymholiadau ynghylch ein defnydd o'ch gwybodaeth at y Swyddog Diogelu Data yn:

diogelu.data@senedd.cymru

0300 200 6565

Pa wybodaeth ydym yn ei chasglu?

Mae’r Senedd yn ymdrechu i gynnwys pobl Cymru a thu hwnt yn ei waith. Mae hyn yn cynnwys ymgysylltu â’r gymuned ymchwil, i wella ehangder, dyfnder ac amrywiaeth y dystiolaeth ymchwil a’r arbenigedd sydd ar gael i’r Senedd, fel y’i disgrifir yn y strategaeth cyfnewid gwybodaeth.

Un o’r dulliau y mae’r Senedd yn eu defnyddio i ymgysylltu â’r gymuned ymchwil yw Meysydd o Ddiddordeb Ymchwil. Mae’r meysydd hyn yn rhestrau o faterion polisi neu gwestiynau a grëwyd gan bwyllgorau’r Senedd i fynegi eu diddordeb mewn gweld mwy o dystiolaeth ymchwil ac ymgysylltu ag arbenigwyr ar bynciau penodol.

Mae pwyllgorau’r Senedd yn nodi eu meysydd o ddiddordeb ymchwil ar sail eu hanghenion ymchwil yn awr ac at y dyfodol. Yna, gwahoddir y gymuned ymchwil i gyflwyno tystiolaeth ac arbenigedd i 'storfa' ar bob pwnc, gan ddefnyddio Microsoft Form i gasglu’r wybodaeth.

Mae’r data a gesglir gan feysydd o ddiddordeb ymchwil y Senedd yn cynnwys: enwau, cyfeiriadau e-bost, rhifau ffôn, sefydliadau, gwybodaeth am feysydd arbenigedd, lincs i ymchwil sydd ar gael yn gyhoeddus sy’n berthnasol i’r pwnc neu grynodebau o’r ymchwil honno, syniadau ar gyfer cwestiynau craffu, gwybodaeth am ymgysylltu blaenorol â’r Senedd, a data monitro amrywiaeth.

Pam yr ydym yn ei chasglu?

Rydym yn casglu’r data hyn i nodi arbenigedd ymchwil a thystiolaeth i gefnogi gwaith pwyllgorau’r Senedd. Yn benodol, bydd y data a gesglir gan y meysydd o ddiddordeb ymchwil yn cael eu defnyddio i helpu pwyllgorau i wneud y canlynol:

  • nodi tystion ac arbenigwyr ar gyfer gweithgareddau pwyllgorau;
  • mapio tystiolaeth gyfredol ar yr hyn sy'n cael ei ystyried ac amlygu bylchau, a
  • chreu rhwydweithiau newydd o randdeiliaid yn y gymuned ymchwil.

Pwy fydd yn gallu cael gafael ar y wybodaeth?

Swyddogion y Senedd ac Aelodau o bwyllgorau’r Senedd sy’n berthnasol i’r meysydd o ddiddordeb ymchwil dan sylw a fydd yn cael mynediad at y data. Ni fydd y data yn cael eu rhannu y tu hwnt i hyn, ac ni fyddant yn cael eu cyhoeddi.

Ble y bydd y wybodaeth yn cael ei chadw?

Bydd y data’n cael eu storio yn seilwaith cwmwl Comisiwn y Senedd, sy’n cynnwys Microsoft Forms.

Am ba hyd y cedwir y wybodaeth?

Bydd y data’n cael eu cadw am gyfnod y Chweched Senedd ac, ar ôl hynny, byddant yn cael eu dileu, oni nodir yn wahanol gan y meysydd o ddiddordeb ymchwil.

Ein seiliau cyfreithiol ar gyfer casglu, cadw a defnyddio'ch gwybodaeth bersonol

Mae cyfraith diogelu data yn nodi seiliau cyfreithiol amrywiol sy’n caniatáu i ni gasglu, cadw a defnyddio eich gwybodaeth bersonol. At ddibenion prosesu'r data personol a ddarperir gennych, rydym yn dibynnu ar y seiliau cyfreithiol a ganlyn:

Mae angen prosesu’r data fel rhan o dasg a gyflawnir er budd y cyhoedd.

Y dasg yw hwyluso gwaith pwyllgorau seneddol i ymgymryd â'u swyddogaeth ddemocrataidd o graffu ar waith Llywodraeth Cymru a chynrychioli pobl Cymru, a sicrhau bod y pwyllgorau’n gallu cyflawni eu swyddogaethau.

Data personol categori arbennig

Mae’n bosibl y byddwn yn prosesu data personol categori arbennig os dewiswch ddarparu’r fath ddata fel rhan o’r cwestiynau monitro amrywiaeth gwirfoddol. Diffinnir data personol categori arbennig fel rhai sy'n cynnwys data sy'n datgelu cefndir unigolion o ran hil, ethnigrwydd, credoau crefyddol neu athronyddol, cyfeiriadedd rhywiol a data am iechyd. Caiff data categori arbennig eu prosesu ar y sail ei fod yn angenrheidiol er budd sylweddol i'r cyhoedd (fel y darperir yn Erthygl 9(2) (g) o Reoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU, a ddarllenir ar y cyd â pharagraff 6 o Atodlen 1 i Ddeddf Diogelu Data 2018).

Eich hawliau

Fel gwrthrych data, mae gennych nifer o hawliau. Mae'r hawliau sy'n gymwys yn dibynnu ar y seiliau cyfreithiol yr ydym yn dibynnu arnynt i ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol. Ni fydd yr hawliau hynny'n gymwys ym mhob achos, a bydd y Comisiwn yn cadarnhau a yw hynny'n wir ai peidio pan fyddwch yn gwneud cais.

Mae'r hawliau'n cynnwys yr hawl i ofyn am fynediad at eich gwybodaeth bersonol eich hun, a elwir weithiau yn 'cais am fynediad at ddata gan y testun'.

Hefyd, mae gennych hawl i wneud cais gennym ni:

  • fod unrhyw wybodaeth anghywir sydd gennym amdanoch yn cael ei chywiro (nodwch fod gofyn i chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am unrhyw newidiadau o ran eich gwybodaeth bersonol);
  • bod gwybodaeth amdanoch chi yn cael ei dileu (mewn rhai amgylchiadau);
  • ein bod yn rhoi'r gorau i ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol at ddibenion penodol neu mewn rhai amgylchiadau; a
  • bod eich gwybodaeth yn cael ei darparu i chi neu drydydd parti mewn fformat cludadwy (eto, mewn rhai amgylchiadau).

Os hoffech arfer unrhyw rai o'r hawliau sydd gennych o dan ddeddfwriaeth diogelu data, neu ofyn cwestiwn neu wneud cwyn ynghylch sut y defnyddir eich gwybodaeth, cysylltwch â'r Swyddog Diogelu Data gan ddefnyddio un o’r dulliau a nodir uchod.

Ceisiadau am wybodaeth a wneir i’r Comisiwn

Os gwneir cais am wybodaeth o dan ddeddfwriaeth mynediad at wybodaeth, mae’n bosibl y bydd angen datgelu’r wybodaeth a gawsom gennych yn llawn neu’n rhannol.  Dim ond os yw’n ofynnol yn ôl y gyfraith y byddwn yn gwneud hynny.

Sut i gwyno

Gallwch gwyno i'r Swyddog Diogelu Data os ydych yn anhapus â sut rydym wedi defnyddio eich data. Mae’r manylion cyswllt wedi’u nodi uchod.  Yn dilyn cwyn, os byddwch yn parhau i fod yn anfodlon ar ein hymateb, gallwch hefyd gwyno i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (yr ICO).

Cyfeiriad Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yw:

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth / Information Commissioner’s Office
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire 
SK9 5AF

Rhif y llinell gymorth: 0303 123 1113