Prif ddiddordebau a chyflawniadau
Ei phrif ddiddordebau yw cymorth yn y gymuned a gwirfoddoli. Treuliodd
Buffy 20 mlynedd yn y sector gwirfoddol ac mae’n teimlo’n angerddol dros
gefnogi grwpiau a sefydliadau cymunedol. Mae Buffy hefyd yn ymwneud llawer â’r
Rotari ac mae wedi mwynhau cefnogi nifer o ddigwyddiadau elusennol Rotari’r
Rhondda. Yn 2020 dyfarnwyd Medal yr Ymerodraeth Brydeinig i Buffy am ei
gwasanaethau i gymunedau’r Rhondda yn rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y
Frenhines. Dyfarnwyd Gwobr Balchder Cymru iddi hefyd yn 2019 am ei gwaith
gwirfoddol yng nghymunedau’r Rhondda.
Hanes personol
Mae Buffy yn byw yn y Rhondda gyda'i gŵr a'i phlant. Fe'i ganed yn Nhrewiliam yn
y Rhondda ac mae bob amser wedi neilltuo'r rhan fwyaf o'i hamser hamdden i'r
sector gwirfoddol.
Cefndir proffesiynol
Mae Buffy wedi gweithio ym myd addysg a'r trydydd sector. Yn fwyaf diweddar
sefydlodd a chofrestrodd Buffy elusen yn y Rhondda i gefnogi trigolion lleol,
gan sefydlu ystafell cymorth iechyd meddwl ac amrywiaeth o grwpiau cymorth.