Pobl y Senedd
Carolyn Thomas AS
Aelod Rhanbarthol o’r Senedd
Llafur Cymru
Grŵp Llafur Cymru
Gogledd Cymru
Cymdeithasol
Manylion Cyswllt
Cyfeiriad Senedd:
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
E-bost
Carolyn.Thomas@senedd.cymru
Fy Ngweithgareddau yn y Senedd
Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr
Gwybodaeth fanwl: Carolyn Thomas AS
-
Bywgraffiad
chevron_right -
Aelodaeth
chevron_right -
Tymhorau yn y swydd
chevron_right -
Cofrestr Buddiannau
chevron_right -
Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol
chevron_right -
Etholiadau
chevron_right -
Asedau'r Cyfryngau
chevron_right
Bywgraffiad
Rwy’n hynod falch a diochgar am gael fy ethol i wasanaethu cymunedau ledied Gogledd Cymru fel eich Aelod o’r Senedd. Byddaf yn gweithio’n galed I ad-dalu’r ymddiriedaeth rydych chi wedi’i dangos ynof i. Os gallaf wneud unrhyw beth I helpu, mae croes I chi anfon e-bost ataf yn Carolyn.Thomas@Senedd.Cymru
Prif ddiddordebau a chyflawniadau
Fy mhrif ddiddordebau yw'r amgylchedd naturiol, priffyrdd a chludiant, gwastraff ac ailgylchu, plant a phobl ifanc, cyfiawnder cymdeithasol a thegwch.
Hanes personol
Rwy'n briod ac yn fam i dri oedolyn ifanc, yn nain ac yn berchennog ci. Yn fy amser hamdden byddaf yn mwynhau cerdded yng nghefn gwlad, crwydro o amgylch trefi hanesyddol ac yfed cwrw go iawn.
Cefndir proffesiynol
Rwyf wedi gweithio mewn amrywiaeth o swyddi wrth fagu fy nheulu. Yn fy swydd ddiweddaraf, roeddwn i’n gweithio fel postferch a, chyn hynny, fel clerc swyddfa’r post. Yn ystod yn fy ugeiniau cynnar, roeddwn i’n byw yn yr Eidal. Yn ystod y deng mlynedd diwethaf, rwyf wedi trefnu digwyddiadau yn y gymuned a digwyddiadau i godi arian i elusennau ac wedi cynhyrchu'r cylchlythyrau lleol.
Hanes gwleidyddol
Cyn cael fy ethol yn Aelod o’r Senedd, fi oedd Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir y Fflint ac roeddwn i hefyd yn Aelod Cabinet dros Wasanaethau Stryd a Chefn Gwlad. Rwyf wedi bod yn Gynghorydd yng Nghyngor Sir y Fflint ers 2008 ac rwyf hefyd wedi cynrychioli dwy ward fel cynghorydd tref a chymuned, sef Llanfynydd a Threuddyn. Rwyf wedi bod yn arweinydd grŵp gwleidyddol, yn Gadeirydd Pwyllgor ac yn Arweinydd Dinesig (Cadeirydd / Maer) y Cyngor. Ymunais â’r blaid Lafur i ymladd yn erbyn mesurau cyni a’u heffaith ar wasanaethau cyhoeddus, ac rwyf hefyd wedi tynnu sylw at effaith ddinistriol credyd cynhwysol ac anghyfiawnder cymdeithasol.
Ymgyrchoedd
Fel Cynghorydd Sir rwyf wedi ymgyrchu dros wasanaethau bysiau cyhoeddus, buddsoddi mewn cyllid priffyrdd, y gwasanaeth cerdd, llefydd chwarae i blant, y blynyddoedd cynnar a’r amgylchedd naturiol.
Aelodaeth
Tymhorau yn y swydd
- 08/05/2021 -
Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol
Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol
- Bioamrywiaeth - Grŵp Trawsbleidiol
- Bwyd Ysgol - Grŵp Trawsbleidiol
- Chwaraeon - Grŵp Trawsbleidiol
- Cwrw a Thafarndai - Grŵp Trawsbleidiol
- Digidol yng Nghymru - Grŵp Trawsbleidiol
- Dur - Grŵp Trawsbleidiol
- Gogledd Cymru - Grŵp Trawsbleidiol (Is-Gadeirydd)
- Gwlân Cymreig - Grŵp Trawsbleidiol
- Lles anifeiliaid - Grŵp Trawsbleidiol (Cadeirydd)
- Menywod - Grŵp Trawsbleidiol
- Sipsiwn a Theithwyr - Grŵp Trawsbleidiol
- Trafnidiaeth Gyhoeddus - Grŵp Trawsbleidiol (Cadeirydd)
- Twristiaeth - Grŵp Trawsbleidiol
- Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol (PCS) - Grŵp Trawsbleidiol
- Y Ddeddf Teithio Llesol - Grŵp Trawsbleidiol