Pobl y Senedd
Cefin Campbell AS
Aelod Rhanbarthol o’r Senedd
Plaid Cymru
Grŵp Plaid Cymru
Canolbarth a Gorllewin Cymru
Cymdeithasol
Manylion Cyswllt
Cyfeiriad Swyddfa:
Llawr Cyntaf
Tŷ Amaeth
Cambrian Place
Caerfyrddin
SA31 1QG
Swyddfa
01267 493 126
Cyfeiriad Senedd:
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
E-bost
Cefin.Campbell@Senedd.Cymru
Fy Ngweithgareddau yn y Senedd
Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr
Gwybodaeth fanwl: Cefin Campbell AS
-
Bywgraffiad
chevron_right -
Aelodaeth
chevron_right -
Tymhorau yn y swydd
chevron_right -
Cofrestr Buddiannau
chevron_right -
Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol
chevron_right -
Etholiadau
chevron_right -
Asedau'r Cyfryngau
chevron_right
Bywgraffiad
Prif ddiddordebau a chyflawniadau
Ar ôl gadael y brifysgol bu Cefin yn dysgu Cymraeg i Oedolion ym Mhrifysgol Abertawe cyn cael ei benodi fel darlithydd Iaith, Llenyddiaeth Gymraeg a Hanes Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd. Sefydlodd y Fenter Iaith gyntaf yng Nghymru – erbyn hyn mae 22 o Fentrau Iaith ledled Cymru. Bu’n aelod o Awdurdod S4C a Bwrdd Llywodraethwyr Coleg Sir Gâr yn ogystal â gweithredu fel ymgynghorydd iaith i Bòrd na Gàidhlig yn yr Alban. Bu hefyd yn arolygydd trwyddedig i Estyn ac yn gadeirydd ar nifer o fyrddau llywodraethol ysgolion. Yn ystod ei gyfnod fel aelod o Gabinet Cyngor Sir Gâr fe gadeiriodd grŵp traws bleidiol a ddatblygodd strategaeth gynhwysfawr i hyrwyddo’r Gymraeg o fewn y Cyngor, strategaeth i adfywio Sir Gâr wledig, cynllun arloesol i daclo tlodi, cynllun gweithredu i sicrhau bod Cyngor Sir Gâr yn cyrraedd net-sero carbon erbyn 2035 a llunio adroddiad i fynd i’r afael â hiliaeth a gwahaniaethu. Yn ei amser hamdden mae’n hoffi gwylio’r Sgarlets, cefnogi tîm pêl droed Abertawe, pysgota a charafanio!
Hanes personol
Mae’n briod a ganddo dair o ferched. Mae’r hynaf yn newyddiadurwraig, yr ail yn y Brifysgol yng Nghaerdydd ac yn gyn-aelod o Senedd Ieuenctid Cymru a’r ifancaf yn astudio ar gyfer ei lefel A. Mae’n byw yn Gelli Aur yn Nyffryn Tywi ond cafodd ei eni a’i fagu yn Nyffryn Aman. Roedd llawer o deulu ei dad yn lowyr, gan gynnwys ei dad-cu ond ffermwyr oedd bron y cyfan o deulu ei fam. Mae’n teimlo’n freintiedig ei fod wedi etifeddu traddodiadau dau o brif ddiwydiannau Cymru!
Cefndir proffesiynol
Ar ôl gorffen ei MA cafodd Cefin Campbell ei benodi fel darlithydd Cymraeg i Oedolion ym Mhrifysgol Abertawe ac yn ddiweddarach fel darlithydd mewn Cymraeg, Llenyddiaeth Gymraeg a Hanes Cymru yn Adran Addysg Barhaus i Oedolion, Prifysgol Caerdydd. Gadawodd y sector addysg uwch yn 1991 i sefydlu’r Fenter Iaith gyntaf yng Nghymru, sef Menter Cwm Gwendraeth cyn symud ymlaen sefydlu Mentrau Iaith ym mhob cwr o Cymru. Yn 2008, sefydlodd fusnes ymgynghorol o’r enw Sbectrwm oedd yn arbenigo mewn ymchwil, cynllunio strategol, rheoli prosiectau a hyfforddiant gan weithio i rai o gyrff mwyaf blaenllaw Cymru. Bu’n Rheolwr Gyfarwyddwr ar y cwmni tan iddo gael ei ethol i chweched Senedd Cymru ym mis Mai 2021.
Hanes gwleidyddol
Roedd Cefin yn Gynghorydd Sir ar Gyngor Sir Caerfyrddin rhwng 2012 a 2022 ac yn aelod o Gabinet Cyngor Sir Caerfyrddin gyda chyfrifoldeb dros Faterion Gwledig a Chymunedau rhwng 2017 a 2021. Cafodd ei ethol i’r Senedd yn 2021 fel aelod rhanbarthol dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru.
Arall
Bu Cefin yn llefarydd grŵp Plaid Cymru ar Faterion Gwledig ac Amaethyddiaeth yn flaenorol. Ym mis Ionawr 2022 fe’i penodwyd yn Aelod Dynodedig yn y Cytundeb Cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru. Mae ganddo hefyd ddiddordeb mewn cefnogi deddfwriaeth i fynd i’r afael â’r argyfwng ail gartrefi, mewn trechu tlodi a chreu miliwn o siaradwyr Cymraeg.
Aelodaeth
Tymhorau yn y swydd
- 08/05/2021 -