Ysgrifennydd y Cabinet dros
Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Hanes
personol
Mae Huw yn briod â Joanna Irranca-Davies (gwnaethant
gyfuno eu cyfenwau, sef Davies ac Irranca, ar ôl priodi). Mae ganddynt dri mab,
ac maent i gyd yn falch o'u gwreiddiau teuluol yng Nghymru a'r Eidal. Magwyd
Huw mewn teulu â chysylltiadau cryf â'r Blaid Lafur ac mae wedi ymgyrchu ar
lawr gwlad a gweithredu ym maes adfywio cymunedol ers tro.
Mae Huw, a aned yn 1963, yn gyn-ddisgybl Ysgol Gyfun
Tre-gŵyr,
ac yn gyn-fyfyriwr Coleg Crewe ac Alsager (BA Anrh) ac Athrofa Addysg Uwch
Abertawe (MSc).
Yn gerddwr brwd (fel Is-lywydd Ramblers Cymru) ac yn
‘seiclwr cyffredin ar feic cefnsyth’, mae hefyd yn ymlacio drwy wylio ei
feibion yn chwarae rygbi neu drwy ddarllen nofelau hanesyddol (ond byth unrhyw
beth gwleidyddol!)
Cefndir
proffesiynol
Cyn ymuno â'r byd gwleidyddol, gweithiodd Huw
Irranca-Davies fel rheolwr yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat, ac fel
uwch ddarlithydd ym maes addysg uwch. Mewn is-etholiad seneddol a gynhaliwyd ym
mis Chwefror 2002, cafodd ei ethol yn Aelod Seneddol y Blaid Lafur yn etholaeth
Ogwr. Daliodd y sedd honno tan 2016, pan gafodd ei ethol yn Aelod Cynulliad
dros Ogwr yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru – sef Senedd Cymru bellach.
Hanes
gwleidyddol
Cafodd Huw ei ethol yn Aelod Seneddol Llafur dros Ogwr yn
2002. Mae wedi gwasanaethu fel
Ysgrifennydd Seneddol Preifat i Weinidogion yn yr Adran Gwaith a Phensiynau,
Gogledd Iwerddon a’r Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a
Chwaraeon, fel Chwip y Llywodraeth, fel Is-ysgrifennydd Gwladol Cymru, ac fel
Gweinidog yr Amgylchedd.
O 2010, gwasanaethai fel Gweinidog yr Wrthblaid dros
Ynni, ac yna fel Gweinidog yr Wrthblaid dros Fwyd, Ffermio a Materion Gwledig.
Ym mis Mai 2015, cafodd ei ethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio
Amgylcheddol. Daliodd y swydd honno tan fis Mai 2016, pan gafodd ei ethol i
Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Yn y Bumed Senedd, ef oedd Cadeirydd y Pwyllgor Materion
Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, cyn iddo gael ei benodi’n Weinidog Plant a
Gwasanaethau Cymdeithasol. Yna, ar gais y Prif Weinidog, daeth yn Gadeirydd ar
Grŵp
Llywio Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru, y Grŵp Cynghori Ewropeaidd a Phwyllgor
Monitro'r Rhaglen, gan oruchwylio gwariant ffrydiau cyllido’r UE yng Nghymru.
Yn ystod y Chweched Senedd mae wedi dal swydd Cadeirydd y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, aelod o’r Pwyllgor Newid
Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, Cadeirydd y Fforwm Strategol ar Fuddsoddi
Rhanbarthol yng Nghymru, a Chadeirydd y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r
Senedd. Roedd hefyd yn aelod o nifer o
Grwpiau Trawsbleidiol, gan ddal swydd Cadeirydd ac Is-gadeirydd ar sawl un.
Ym mis Mawrth 2024 penodwyd Huw yn Ysgrifennydd y Cabinet
dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig yn Llywodraeth Cymru.