Ysgrifennydd y Cabinet
dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol
Prif ddiddordebau a chyflawniadau
Tai, iechyd a lliniaru newid yn yr hinsawdd.
Hanes personol
Cafodd Lesley ei magu yng ngogledd-ddwyrain Cymru ac mae wedi byw a
gweithio yn Wrecsam ers dechrau gweithio.
Cefndir proffesiynol
Treuliodd Lesley 20 mlynedd yn gweithio yn Ysbyty Maelor Wrecsam. Cyn iddi
gael ei hethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, bu'n gweithio fel Cynorthwy-ydd
Etholaethol i Ian Lucas, AS.
Hanes gwleidyddol
Etholwyd Lesley i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Mai 2007. Sefydlodd y Grŵp Hosbis Trawsbleidiol, a bu’n gadeirydd
arno. Ym mis Rhagfyr 2009, cafodd ei
phenodi’n Ddirprwy Weinidog dros Wyddoniaeth, Arloesi a Sgiliau. Ar ôl cael ei hailethol ym mis Mai 2011,
cafodd ei phenodi’n Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Ym mis Mawrth 2013, penodwyd Lesley yn
Weinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth. Ym mis Medi 2014, fe'i
penodwyd yn Weinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, ac yn 2016 yn Gweinidog Ynni,
yr Amgylchedd a Materion Gwledig. Ar ôl iddi gael ei hail ailethol yn 2021,
penodwyd Lesley yn Weinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd.