Prif ddiddordebau a chyflawniadau
Blaenoriaethau cyfredol Russell yw
cadw a gwella gwasanaethau cyhoeddus lleol i bobl Sir Drefaldwyn. Mae Russell hefyd
yn teimlo'n angerddol am annog pobl iau i gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus ac
mae'n awyddus i gefnogi ac annog busnesau newydd a thwf busnesau bach. Roedd
Russell yn chwarae rhan fawr yn y gwaith o hyrwyddo ffordd osgoi'r Drenewydd ac
mae'n ymgyrchu dros wella band eang yn ardaloedd gwledig Cymru. Mae hefyd wedi
gwrthwynebu'n gryf ddatblygiad tyrbinau gwynt ar y tir ledled canolbarth Cymru.
Mae ei ddiddordebau personol yn cynnwys cadw'n iach. Ef yw Llywydd Cyngor
Sgowtiaid Ardal Sir Drefaldwyn a Dirprwy Lywydd Cymdeithas Clefyd Niwronau
Motor Sir Drefaldwyn. Mae hefyd yn aelod o Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir
Drefaldwyn, ac yn aelod o Hope Church yn y Drenewydd; felly mae wedi bod yn
rhan o lawer o brosiectau sy'n cefnogi'r gymuned.
Hanes personol
Ganed Russell yn y Trallwng ym 1974 a
chafodd ei fagu yn Sir Drefaldwyn ac yno yr aeth i’r ysgol. Mae ganddo radd
mewn Astudiaethau Gwybodaeth a’r Cyfryngau o Brifysgol Canolbarth Lloegr.
Cefndir proffesiynol
Cyn cael ei ethol i'r Senedd, roedd
Russell yn gynghorydd tref, yn llywodraethwr ysgol, yn aelod o Fwrdd Coleg
Powys, ac yn aelod o Bwyllgor Rheoli Theatr Hafren.
Hanes gwleidyddol
Russell George yw’r Aelod o Senedd Cymru dros Sir Drefaldwyn ac mae wedi
cynrychioli’r etholaeth er 2011. Russell yw Gweinidog yr Wrthblaid dros Iechyd,
ac mae ei rôl fel llefarydd ar ran Grŵp Ceidwadwyr Cymru hefyd yn cynnwys cyfrifoldeb am
Ganolbarth Cymru. Mae wedi cadeirio Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau
Senedd Cymru ers 2016. Etholwyd Russell i Gyngor Sir Powys yn 2008 ac roedd yn
aelod o fwrdd rheoli gweithredol y Cyngor rhwng 2008 a 2011. Pan etholwyd ef i
Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn 2011, fe’i penodwyd yn Weinidog yr Wrthblaid
dros yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy cyn dod yn Weinidog yr Wrthblaid dros
Amaethyddiaeth a Materion Gwledig rhwng 2014 a 2016. Ym mis Mai 2016, etholwyd
Russell i'r Cynulliad gyda mwyafrif cynyddol. Rhwng 2013 a 2016, sefydlodd y Grŵp Trawsbleidiol ar Gyfathrebu Digidol ac
ef oedd cadeirydd y Grŵp
hwn a oedd yn ymgyrchu dros welliannau o ran y graddau yr oedd band eang cyflym
iawn a signal ffonau symudol ar gael yng Nghymru ac, yn ystod y Pedwerydd
Cynulliad, roedd yn aelod gweithgar o Bwyllgor yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd a
Phwyllgor Deisebau y Cynulliad.