Mae'r Senedd yn arsylwi cyfnod o alaru cenedlaethol yn dilyn marwolaeth Ei Mawrhydi Y Frenhines. Mae busnes y Senedd wedi'i ohirio ac ni fydd mynediad cyhoeddus i adeilad y Senedd tan ar ôl yr Angladd Gwladol.
Cyfle i ddewis aelodau Senedd Ieuenctid Cymru nesaf yn dechrau heddiw
Cyhoeddwyd 04/11/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau
Mae’r pleidleisio yn etholiadau Senedd Ieuenctid Cymru wedi agor.
Bydd pobl ifanc ledled Cymru yn bwrw eu pleidleisiau ar-lein o heddiw tan 21 Tachwedd.
Fe fyddan nhw'n dewis o blith 453 o ymgeiswyr ar gyfer 60 sedd, a bydd y rhai llwyddiannus yn cael eu cyhoeddi ddechrau mis Rhagfyr.
I gofrestru i bleidleisio yn etholiad Senedd Ieuenctid Cymru, rhaid i chi fod rhwng 11 ac 17 oed ac yn byw yng Nghymru neu'n derbyn eich addysg yma. Cofrestrwch i bleidleisio ar-lein yma.
Bydd yr aelodau newydd yn cynrychioli barn eu cyfoedion i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau ar y lefel uchaf yng Nghymru ac yn dewis eu materion blaenoriaeth eu hunain i ganolbwyntio arnynt.
Yn y Senedd Ieuenctid gyntaf, rhwng 2018 a 2020, pleidleisiodd yr aelodau i weithio ar sgiliau bywyd yn yr ysgol, gwastraff plastig, a chymorth iechyd emosiynol ac iechyd meddwl i bobl ifanc.
Dewisodd yr ail senedd, rhwng 2021 a 2023, flaenoriaethu’r cwricwlwm ysgol, iechyd meddwl a lles, a’r hinsawdd.
Mae’r aelodau’n cael cymorth i lunio adroddiad ar bob un o’r pynciau, ac mae Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn ymateb i’r rhain yng nghyfarfodydd y 60 Aelod o’r Senedd Ieuenctid yn y Senedd.
Bydd cyfarfod cyntaf trydedd Senedd Ieuenctid Cymru yn cael ei gynnal ar-lein yn ystod ail wythnos mis Rhagfyr.