Mewn adroddiad newydd a gyhoeddwyd heddiw, mae un o bwyllgorau’r Senedd wedi galw am fwy o hawliau i bobl sy’n rhentu’n breifat, gan gynnwys hawl posibl i iawndal os ydynt yn cael eu troi allan.
Mae adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ar ei ymchwiliad i gartrefi sy’n cael eu rhentu’n breifat yn annog Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â nifer o faterion yn y farchnad dai, a hynny er mwyn gwella’r profiad o rentu.
Iawndal i bobl sy’n cael eu troi allan heb fai
Mae’r Pwyllgor yn annog Llywodraeth Cymru i leddfu’r pwysau ar denantiaid sy’n wynebu cael eu troi allan heb fai drwy archwilio cynnig lle byddai landlordiaid yn caniatáu i’r tenantiaid hynny gadw’r ddau fis diwethaf o rent eu tenantiaeth fel iawndal.
Derbyniodd Jeffrey Walters, o Gasnewydd, rhybudd ei fod yn cael ei droi allan heb fai yn 2022. Dywedodd, “Roeddwn yn teimlo fel pe bai’r byd yn dymchwel; hwn oedd un o adegau mwyaf caled fy mywyd.
"Un diwrnod, daeth perchennog yr eiddo i'r tŷ a dweud ei fod yn bwriadu ein troi allan a bod angen i ni wneud cynlluniau i adael. Daeth yn gymaint o sioc.
“Fel rhiant sengl i ddau o blant, fe effeithiodd ar fy mhlant hefyd. Roeddwn nhw’n dweud yn aml, ‘Beth yw pwynt mynd i’r ysgol os byddwn ni’n byw yn rhywle arall mewn rhai wythnosau?’.
“Roedd ceisio dod o hyd i gartref newydd i ni gyd mor galed; roedd yn rhwystr ar ôl rhwystr gyda phob broblem yn fwy na'r diwethaf a doeddech chi byth yn gwybod pryd roedd y sefyllfa mynd i ddod i ben.
“Rwy’n meddwl y byddai rhywfaint o iawndal gan y landlord yn syniad da. Er na fyddai’n lleihau y straen cychwynnol o ddod o hyd i le newydd, os gall y cynllun helpu pobl ar gyfer blaendal ar gyfer eu cartref nesaf, yna mae hynny’n beth da. Ac rwy’n meddwl y byddai landlordiaid da yn teimlo eu bod o leiaf yn helpu eu tenant i symud ymlaen.”
Dywedodd Llywodraeth Cymru wrth y Pwyllgor y byddai gwaharddiad ar droi allan heb fai yn mynd yn groes i gyfreithiau hawliau dynol.
Dywedodd hefyd fod y cyfnod rhybudd o chwe mis y mae gofyn i landlord ei roi i denant ar hyn o bryd yn golygu bod gan Gymru yr amddiffyniadau cryfaf ar gyfer tenantiaid yn y DU.
Fodd bynnag, mae miloedd o bobl sy’n rhentu yng Nghymru yn parhau i bryderu am y posibilrwydd o gael eu troi allan heb fai.
Felly, mae’r Pwyllgor yn dweud y dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi ei rhesymeg ym mis Ebrill 2025 ynghylch dichonoldeb y cynnig i alluogi tenantiaid sy’n wynebu cael eu troi allan i gadw’r ddau fis diwethaf o rent fel iawndal.
Mae deddfwriaeth a fyddai’n gwahardd achosion o droi allan heb fai yn mynd drwy Dŷ’r Cyffredin ar hyn o bryd. Yn sgil hynny, mae’r Pwyllgor yn dweud y dylai Llywodraeth Cymru fonitro’r sefyllfa yn Lloegr er mwyn sicrhau nad yw tenantiaid yng Nghymru ar eu colled yn y pen draw.
Gwahaniaethu
Yn anffodus, dywedodd y Pwyllgor ei fod hefyd wedi canfod achosion eang o landlordiaid yn gwahaniaethu yn erbyn pobl sy’n hawlio budd-daliadau.
Canfu arolwg a gynhaliwyd gan Shelter Cymru yn 2022 fod 37 y cant o landlordiaid wedi dweud nad oeddent yn gosod i bobl sy’n hawlio budd-daliadau neu y byddai’n well ganddynt beidio â gwneud hynny.
Yn ogystal, mae rhai landlordiaid yn gofyn am sawl mis o rent ymlaen llaw, sy’n golygu ei bod bron yn amhosibl i rai pobl ar incwm isel fforddio rhentu.
Rhwystr arall wynebodd Jeffrey tra yr oedd yn chwilio am gartref newydd, oedd ynghylch ei warantwr. Dywedodd, “Pan oeddwn yn ceisio dod o hyd i le arall i aros, bu'n rhaid i mi roi blaendal o dros £200 i gwmni wrth iddynt wirio fy nghais.
“Ond yr hyn wnaethon nhw ei gadw’n gudd yn y print mân oedd na fydden nhw’n derbyn gwarantwr a oedd dramor, felly fe wnaethon nhw wrthod fy nghais a chadw fy arian – dim ond oherwydd bod fy ngwarantwr wedi ateb ei ffôn pan oedd ar wyliau.”
I lawer o bobl sy'n gadael gofal neu bobl sy’n ffoaduriaid neu newydd symud i Gymru o du allan y DU, mae dod o hyd i warantwr derbyniol ar gyfer y contract yn rhwystr arall rhag rhentu.
Mae’r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i reoleiddio’r sector er mwyn dileu’r mathau yma o rwystrau ariannol a biwrocrataidd y mae tenantiaid yn eu hwynebu.
Anhegwch anifeiliaid anwes
Yn ystod ei ymchwiliad, clywodd y Pwyllgor dystiolaeth eang am achosion o wahaniaethu gan landlordiaid yn erbyn tenantiaid posibl, gan gynnwys pobl ag anifeiliaid anwes.
Mae’r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i egluro sut y mae’n bwriadu sicrhau bod perchnogaeth anifeiliaid anwes mewn llety rhent yn hawl, ac yn galw arno hefyd i lansio ymgyrch chwalu mythau gyda landlordiaid er mwyn rhoi terfyn ar wahaniaethu yn erbyn perchnogion anifeiliaid anwes.
Mae llawer o landlordiaid yn pryderu y bydd caniatáu anifeiliaid anwes i fyw yn eu heiddo yn cynyddu’r risg o ddifrod.
Fodd bynnag, clywodd y Pwyllgor fod arolygon yn dangos bod tua thri chwarter o landlordiaid sy’n caniatáu anifeiliaid anwes i fyw yn eu heiddo wedi nodi nad oedd unrhyw broblemau ar ddiwedd y denantiaeth.
Yn ogystal, clywodd y Pwyllgor dystiolaeth a oedd yn amlinellu sut y gallai landlordiaid wneud mwy o arian drwy rentu i berchnogion anifeiliaid anwes, gan eu bod yn debygol o aros mewn eiddo yn hirach.
Clywodd y Pwyllgor y byddai lleihau gwahaniaethu yn erbyn perchnogion anifeiliaid anwes yn atal pobl rhag gorfod dewis rhwng rhoi eu hanifeiliaid anwes i ffwrdd neu wrthod llety.
Dywedodd John Griffiths AS, Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai: “Mae cael lle diogel i’w alw’n gartref yn rhan sylfaenol o sicrhau bod pobl yn gallu byw bywydau hapus, iach a boddhaus, ni waeth a ydynt yn berchen ar y cartref hwnnw neu’n ei rentu.
“Yn anffodus, clywodd y Pwyllgor hwn lawer gormod o dystiolaeth am bobl sy’n methu â dod o hyd i gartref sefydlog oherwydd eu bod yn hawlio budd-daliadau, oherwydd nad ydynt yn gallu fforddio blaendaliadau enfawr ymlaen llaw, neu oherwydd bod ganddynt anifail anwes. Rhaid mynd i'r afael â'r gwahaniaethu hwn, a'r llu o rwystrau eraill y mae pobl yn eu hwynebu, a hynny cyn gynted â phosibl.
“Er gwaethaf y ffaith bod gennym reolau sy’n ei gwneud yn fwy anodd troi pobl allan heb fai nag yr oedd yn y gorffennol, gwyddom fod llawer o bobl yn parhau i fyw â’r posibilrwydd o gael eu troi allan yn hongian dros eu pennau.
“Mae’n rhaid i’r sector rhentu preifat weithio i landlordiaid ac i denantiaid. Dyna pam rydym yn annog Llywodraeth Cymru i roi ein hargymhellion ar waith, fel bod cartrefi fforddiadwy o ansawdd uchel ar gael i bawb.”