O 1 Rhagfyr 2020, ni fydd syrcasau teithiol yn cael defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn perfformiadau mwyach o dan Ddeddf Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru), a ddaeth i rym ddydd Llun 7 Medi.
Mae Janet Finch-Saunders AS, Cadeirydd Pwyllgor Deisebau'r Senedd, wedi cyhoeddi'r datganiad a ganlyn:
"Dyma benllanw ymgyrch hir a phenderfynol gan lawer iawn o bobl yng Nghymru ac mae'r Pwyllgor hwn yn falch o weld eu hymdrechion yn cael eu cydnabod heddiw.
"Fel rhan o'r ymgyrch honno, cyflwynwyd deiseb yn galw am waharddiad a gafodd ei llofnodi gan fwy na 6,000 o bobl. Tynnodd y Pwyllgor sylw Llywodraeth Cymru at y ddeiseb ac fe gyflwynodd y Llywodraeth ddeddfwriaeth i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar y pryd.
"Mae hyn yn dangos yr effaith y gall democratiaeth a system ddeisebau'r Senedd ei chael wrth dynnu sylw at faterion pwysig ac arwain at newid gwirioneddol.
"Rwy'n llongyfarch y deisebwyr a'u cefnogwyr am eu hymgyrch ddiflino."
Trafododd y Pwyllgor Deisebau y ddeiseb am y tro cyntaf ar 23 Ionawr 2018.
Trafodwyd y ddeiseb gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar y pryd ar 7 Mawrth 2018.
Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb ar 25 Medi 2018 ar ôl i Lywodraeth Cymru ymrywmo i gyflwyno deddfwriaeth i wahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yn ystod y 12 mis nesaf.
Cyflwynodd Llywodraeth Cymru y Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru) ar 8 Gorffennaf 2019.
Derbyniwyd y Bil gan y Senedd ar 15 Gorffennaf 2020.
Mae rhagor o wybodaeth am y ddeiseb ar gael yma.
Mae rhagor o wybodaeth am system ddeisebau'r Senedd ar gael yma.
Mae rhagor o wybodaeth am y Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru) ar gael yma.