Mae'r Senedd yn arsylwi cyfnod o alaru cenedlaethol yn dilyn marwolaeth Ei Mawrhydi Y Frenhines. Mae busnes y Senedd wedi'i ohirio ac ni fydd mynediad cyhoeddus i adeilad y Senedd tan ar ôl yr Angladd Gwladol.
Honiadau’n ymwneud ag Undeb Rygbi Cymru
Cyhoeddwyd 28/11/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau
Dywedodd Delyth Jewell, Cadeirydd Pwyllgor Diwylliant y Senedd:
“Yn dilyn honiadau o rywiaeth a chasineb at fenywod yn Undeb Rygbi Cymru y llynedd fe wnaethom ni, fel un o bwyllgorau’r Senedd, addo dal yr Undeb i gyfrif hyd nes i’r materion hyn gael eu taclo.
“Mae’n amlwg o’n sesiwn gydag Undeb Rygbi Cymru heddiw bod cynnydd wedi cael ei wneud, ac rydym yn gwerthfawrogi’r diffuantrwydd a welsom gan arweinyddiaeth yr Undeb.
“Wedi dweud hynny, mae Undeb Rygbi Cymru megis cychwyn ar daith bwysig. Mae'r ddadl ynghylch trafodaethau contractau tîm y menywod yn peri pryder ac yn dangos bod gwaith i'w wneud o hyd. Cawsom sicrwydd o’r ffaith bod Undeb Rygbi Cymru i’w weld yn cydnabod y materion ac o’r ffaith ei fod yn barod i ddysgu o esiampl sefydliadau eraill megis Cymdeithas Bêl-droed Cymru.
“Ar ran pobl Cymru, byddwn ni’n parhau i ddwyn Undeb Rygbi Cymru i gyfrif drwy ein hymchwiliadau.
“Rhaid i argymhellion yr Adolygiad Annibynnol o Undeb Rygbi Cymru gael eu gweithredu fel bod rygbi Cymru yn lle diogel i bawb.
“Mae gan rygbi Cymru le arbennig yn enaid Cymru – mae ei lwyddiant o bwys mawr i bob un ohonom.”