Mae'r Senedd yn arsylwi cyfnod o alaru cenedlaethol yn dilyn marwolaeth Ei Mawrhydi Y Frenhines. Mae busnes y Senedd wedi'i ohirio ac ni fydd mynediad cyhoeddus i adeilad y Senedd tan ar ôl yr Angladd Gwladol.
‘Pan fydd pawb yn anwybyddu ni, mae’r gangiau’n achub ar y cyfle’
Cyhoeddwyd 05/12/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau
Mae plant ledled Cymru yn cael eu gadael yn agored i gangiau gamfanteisio arnynt, yn ôl adroddiad gan y Senedd.
Mae’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn rhestru nifer o gyfleoedd a gollwyd i atal grwpiau troseddu cyfundrefnol rhag camfanteisio ar blant.
Yn ystod yr ymchwiliad, clywyd gan bobl ifanc a oedd wedi wynebu camfanteisio troseddol am eu profiadau o gymorth anghyson mewn ysgolion, ac am yr addewidion a dorrwyd gan weithwyr proffesiynol sydd dan faich gwaith llethol.
Mae’r adroddiad Plant sydd ar yr Ymylon a gyhoeddwyd heddiw yn gwneud 23 o argymhellion a all ddechrau datrys y problemau hyn ar unwaith.
Dywedodd Buffy Williams AS, Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg:
“Gellir darllen yr adroddiad hwn fel stori am golli cyfleoedd. Colli cyfleoedd i nodi a chefnogi plant sy’n wynebu risg. Colli cyfleoedd i ymateb pan fydd pethau’n gwaethygu, a cholli cyfleoedd i gymryd camau pendant ar adegau tyngedfennol.
“Pan gollir y cyfleoedd hynny, gall plant ddioddef camfanteisio troseddol a chamdriniaeth ffiaidd. Yn y bôn, bydd yn effeithio ar eu bywydau a bywydau eu ffrindiau a’u teuluoedd.
“Ni fydd rhai plant yn goroesi’r camfanteisio a’r cam-drin y maent yn ei ddioddef.
“Credwn y bydd yr argymhellion yn yr adroddiad hwn, os cânt eu derbyn a’u gweithredu gan Lywodraeth Cymru nawr ac yn y dyfodol, yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol a diriaethol i fywydau’r plant sydd fwyaf agored i niwed.”
Colli cyfleoedd mewn ysgolion
Codwyd plant a gafodd eu gwahardd o’r ysgol neu a wrthododd fynd i’r ysgol mewn tystiolaeth yn fwy nag unrhyw ffactor risg arall ar gyfer camfanteisio.
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth mai ychydig iawn o blant y camfanteisiwyd arnynt sy’n mynychu’r ysgol yn rheolaidd, ac ysgrifennodd Gweithredu dros Blant fod dros 90% o’r plant sy’n cael eu hatgyfeirio at eu gwasanaethau yng Nghymru wedi wynebu gwaharddiadau addysg.
Dywedodd y pum cyfranogwr ifanc y camfanteisiwyd arnynt yn droseddol mai cael eu gwahardd o’r ysgol oedd y peth a oedd yn eu gwylltio fwyaf.
Dywedodd un cyfranogwr dienw:
“Roeddwn i’n casáu ysgol, roedd athrawon yn fy nghasáu i a doedd fy mam ddim yn gwybod beth i’w wneud na sut i ofalu amdana i. Cefais amserlen lai, felly byddwn i allan ar y stryd pan fyddai’r holl blant eraill yn yr ysgol.
“Dyna sut maen nhw [gangiau] yn sylwi ar y rhai sy’n agored i niwed. Mae’r plant hyn yn y sefyllfa hon oherwydd bod yr ysgol wedi rhoi’r gorau i’w helpu nhw, dydy eu rhieni ddim eu heisiau o gwmpas, ac maen nhw’n ysu am rywun i ofalu amdanyn nhw. Byddwn i wedi bod yn fwy diogel pe bawn i wedi aros yn yr ysgol.”
Mae’r Pwyllgor yn nodi’r her y mae ysgolion yn ei hwynebu wrth geisio cadw’r plant mwyaf agored i niwed yn yr ysgol. Dywedodd yr Aelodau nad ydynt yn tanamcangyfrif pa mor galed ydyw i ysgolion werthuso anghenion y plentyn unigol ynghyd ag anghenion y plant yn y gymuned ysgol ehangach.
Maent bellach yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i helpu ysgolion i gydbwyso peryglon gwahardd a chadw plant sy’n agored i niwed yn yr ysgol, gan roi hyfforddiant, arweiniad clir ac enghreifftiau.
Cyfweliadau dychwelyd
Mae cyfweliadau dychwelyd, sef sgyrsiau ag oedolyn dibynadwy ar ôl i blentyn coll ddychwelyd adref, yn ffordd hanfodol o ddiogelu plant a gallant roi’r cyfle i blant roi gwybod am gamfanteisio yn gynt.
Ers 2014, mae cynnig cyfweliad dychwelyd annibynnol i’r holl bobl ifanc yr adroddwyd eu bod ar goll wedi bod yn ddyletswydd statudol yn Lloegr.
Nid yw hyn yn wir yng Nghymru, lle mae cyfweliadau dychwelyd yn cael eu cynnig yn anghyson, os o gwbl, yn dibynnu ar yr ardal.
Mae’r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i’w gwneud yn ofynnol yn statudol gynnig cyfweliad dychwelyd yn dilyn pob cyfnod o fod ar goll ac i’r wybodaeth a ddysgir yn y cyfweliadau hynny gael ei rhannu â’r holl randdeiliaid perthnasol.
Mae’r adroddiad llawn ar gael yma.