Ein rôl

Rydym yn deddfu, yn pennu trethi ac yn goruchwylio gwaith Llywodraeth Cymru.

Dwyn y llywodraeth i gyfrif

Goruchwylio Llywodraeth Cymru

Rydym yn gwirio gwaith a gwariant Llywodraeth Cymru.

Rydym yn gwneud hyn drwy gyfarfodydd yn siambr y Senedd o'r enw’r Cyfarfod Llawn, lle mae'r Aelodau'n trafod cynlluniau Llywodraeth Cymru ac yn holi Gweinidogion.

Mae ein pwyllgorau, wedyn, yn canolbwyntio ar agweddau ar fywyd yng Nghymru, gan edrych ar gyfreithiau newydd neu bolisïau'r llywodraeth sy'n effeithio ar yr agweddau hynny.

Rhagor o wybodaeth
Llywodraeth Cymru

Sut y gwneir cyfreithiau

Y Senedd, Bae Caerdydd

Deddfu

Rydym yn creu ac yn craffu ar ddeddfau sy'n effeithio ar bob un ohonom.

Gallai hyn fod yn gyfraith newydd – o'r enw Bil – neu wneud newidiadau i un sy'n bodoli eisoes.

Ar ôl craffu ar ddeddfau a’u hystyried yn ofalus, cynhelir pleidleisiau arnynt i weld a ydynt yn cael cymeradwyaeth yn y Senedd. Os cânt eu chymeradwyo byddant yn dod yn ‘Ddeddfau gan Senedd Cymru’ ac yn gyfreithiau newydd yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth

Sut y cytunir ar drethi Cymru

Cytuno ar drethi yng Nghymru

Y Senedd, ynghyd â Llywodraeth Cymru, sy'n gyfrifol am rai o'r trethi a osodir yng Nghymru.

Rydym yn gwirio ac yn herio gwaith Llywodraeth Cymru o ran gosod cyfraddau treth a chyflwyno trethi newydd.

Cyfle i archwilio mwy