Mae Aelodau o’r Senedd rydych chi’n eu hethol yn dadlau, archwilio ac yn deddfu sy’n siapio bywyd yng Nghymru. Mae hyn wedi bod yn bosibl ers 2008.
Ynglŷn â Chymru
Gall Cymru ddeddfu o fewn y meysydd y mae’n gyfrifol amdanynt yn unig.
Mae’r meysydd hyn yn cynnwys Iechyd, Trafnidiaeth ac Amaethyddiaeth – ond mae pethau fel y Fyddin, Diplomyddiaeth Ryngwladol a Phlismona wedi’u cadw yn ôl gan Lywodraeth y DU ar hyn o bryd.
Pan fyddwn yn gwneud deddf fe’i gelwir yn Ddeddf y Senedd. Daeth y gallu i ddeddfu i rym ar ôl refferendwm cenedlaethol yn 2011.
O ble mae deddf newydd yn dod?
Yng Nghymru, mae cyfreithiau ar wahân i weddill y DU sy’n ymwneud ag agweddau amrywiol ar fywyd bob dydd.
Mae’r rhain yn cynnwys gwerthu bagiau plastig, gwahardd anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau a Threth Trafodiadau Tir.
Mae deddfau newydd yn cychwyn fel dogfennau o’r enw Biliau. Fersiynau drafft o ddeddfau newydd sy’n cael eu cynnig yw Biliau. Gall Llywodraeth Cymru, un o Bwyllgorau’r Senedd, Aelodau unigol neu Gomisiwn y Cynulliad gynnig deddf newydd.
Sut mae Bil yn dod yn gyfraith
Mae Bil yn gorfod mynd drwy nifer o gamau cyn dod yn Ddeddf y Senedd.
Mae’r camau hyn yn sicrhau bod trafodaeth gyhoeddus a gwaith craffu yn digwydd ar y Bil. Mae rhai o’r camau hyn hefyd yn rhoi cyfle i newid Bil.
Dyma amlinelliad o’r cyfnodau ar gyfer Bil cyhoeddus:
Cyfnod 1
Aelodau o’r Senedd yn penderfynu a oes angen y gyfraith newydd ar Gymru.
Cyfnod 2
Bydd un o bwyllgorau’r Senedd yn edrych yn agos ar y Bil, yn clywed tystiolaeth gan y rhai sy’n cael eu heffeithio neu arbenigwyr, cyn awgrymu newidiadau neu welliannau.
Cyfnod 3
Mae’r Aelodau’n cwrdd yn y Cyfarfod Llawn, sef cyfarfod o holl Aelodau o’r Senedd yn y Siambr. Maen nhw’n edrych ar adroddiad y pwyllgor a’r Bil, yn adolygu awgrymiadau, yn trafod ac yn gwneud newidiadau terfynol i eiriad y Bil.
Cyfnod 4
Mae’r Aelodau’n pleidleisio yn y Cyfarfod Llawn i gymeradwyo geiriad terfynol y Bil.
Cydsyniad Brenhinol
Mae’r Brenin yn rhoi Cydsyniad Brenhinol i’r Bil. Pan fydd hyn yn digwydd gall y Bil ddod yn Ddeddf y Senedd, sef cyfraith newydd i Gymru.