Croeso i'r Senedd – cartref datganoli yng Nghymru
Dysgwch am arddangosfeydd, gweithgareddau, teithiau a digwyddiadau sy’n digwydd yn y Senedd a'r Pierhead.
Yr amseroedd agor - y Senedd a'r Pierhead:
Dydd Llun - Dydd Gwener: 09.00 - 16.30
Dydd Sadwrn a gwyliau banc: 10.30 - 16.30
Ceir mynediad hyd at 16.00
Noder: mae'r adeilad ar agor cyn ac ar ôl yr amseroedd agor arferol i ymwelwyr sy'n dod i wylio'r Cyfarfod Llawn, cyfarfodydd pwyllgor a busnes arall y Senedd.
Mynediad am ddim
Beth sy'n digwydd
Adeiladau'r Senedd
Wedi'i gynllunio gan Rogers Stirk Harbour a’i Bartneriaid, mae'r adeilad hwn yn ymgorffori’r gwerthoedd democrataidd o fod yn agored, a chyfranogi.
Mae tryloywder yr adeilad yn caniatáu i chi fwynhau llawer ohono o'r tu allan, ond dewch i mewn i ddysgu rhagor am sut mae Senedd Cymru yn cynrychioli pobl Cymru.