Am ddod â’ch dysgwyr neu pobl ifanc i’r Senedd ar gyfer sesiwn addysgol, gweithdy neu daith am ddim?
Mae ein rhaglenni addysg, sy’n gysylltiedig â’r cwricwlwm newydd, yn ffordd benigamp o helpu i ddysgu am wleidyddiaeth Cymru.
Nodwch mai uchafswm maint y grŵp yn gyffredinol yw 48 aelod, yn staff a dysgwyr/pobl ifanc. Os oes angen i chi archebu lle ar gyfer grŵp mwy neu os nad yw'r dyddiad y dymunwch ei gadw ar gael, cysylltwch â ni oherwydd weithiau y byddwn yn gallu darparu ar gyfer eich cais neu gynnig dewis arall.
Gallwch gysylltu â ni drwy e-bost ar cysylltu@senedd.cymru neu drwy ffonio 0300 200 6565
Sylwch y bydd gwaith adeiladu'n cael ei wneud yn ystod 2025 i gynyddu maint Siambr drafod y Senedd. Byddwn yn gallu cyflwyno ein rhaglen addysg yn ystod y cyfnod hwn, ond gall y gwaith adeiladu hwn olygu nad yw rhai rhannau o'n hystad yr ydym yn tueddu i'w defnyddio fel rhan o'n hymweliadau addysg yn hygyrch yn ystod eich ymweliad. Byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi wrth i'r cynlluniau fynd rhagddynt.
Cofiwch, os ydych yn bwriadu gwneud cais am gymhorthdal teithio a allwch sicrhau bod gennych cyfrif talu yr ysgol, coleg neu grŵp ieuenctid yn barod.