Grwpiau Ieuenctid - Pŵer a Phrotest

Cyhoeddwyd 07/12/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 04/06/2024   |   Amser darllen munudau

Ar gael am 10:00-12:00 ar fore Mawrth, bore Mercher a bore Iau, ac am 13:00-15:00 ar brynhawn Iau. 

 

Addas ar gyfer: Grwpiau ieuenctid

Hyd: 2 awr

Lleoliad: Ystâd y Senedd, Bae Caerdydd

£ Am ddim

 

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Ymweliad a fydd yn edrych ar enghreifftiau o wahanol brotestiadau a sut y gall pobl ifanc sicrhau bod eu lleisiau yn cael eu clywed.

Sesiwn weithdy ar gyfer grwpiau ieuenctid a fydd yn ystyried pwy sy’n gyfrifol am ba bwerau – Awdurdodau Lleol, y Senedd, neu San Steffan?

 

Gweithgareddau

Bydd dysgwyr yn dechrau eu hymweliad gyda thaith o amgylch y Senedd, ac yna gweithgareddau yn y ganolfan addysg - Siambr Hywel.

Siambr Hywel

Bydd dysgwyr yn trafod mater cyfoes yn y siambr drafod wreiddiol

 

Archebu Lle

Gwelwch y dyddiadau sydd ar gael a threfnwch eich ymweliad heddiw.

Archebwch nawr

 


Gwybodaeth Ychwanegol

  • Bydd angen i chi fynd drwy’r broses ddiogelwch felly byddem yn cynghori pob grŵp i gyrraedd 10 munud cyn i'ch ymweliad ddechrau.
  • Os byddwch yn ymweld ar fore dydd Mawrth neu fore dydd Mercher, gallwch archebu tocynnau i wylio'r Cyfarfod Llawn sy'n dechrau am 13.30.
  • Gellir archebu ystafell ginio ar gyfer eich grŵp cyn neu ar ôl yr ymweliad.
  • Mae cymhorthdal tuag at gostau teithio i'r Senedd ar gael i ysgolion cymwys. Mwy am gymorthdaliadau

 


 

Sut mae'r sesiwn hon yn cysylltu â'r cwricwlwm newydd? Gweld y cysylltiadau â’r cwricwlwm