Mynd i dudalen Busnes y Senedd chevron_right
Mynd i dudalen Sut rydym yn gweithio chevron_right
Crwydro’r adran Ymweld â ni chevron_right
Mae ‘Tyst i Gymru’ yn astudiaeth hirdymor o gymuned a chenedligrwydd, a grëwyd drwy gyfres o deithiau ar draws y wlad. Dyddiadau: 7 Medi - 31 Hydref 2024.
Wrth i ni nodi 25 mlynedd o ddatganoli yng Nghymru, rydym yn dathlu hanesion pobl sydd wedi defnyddio eu llais i ymgyrchu dros newid. Dyddiadau: 11 Medi - 11 Tachwedd 2024.
Mae UNHCR, Asiantaeth Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig, yn falch o ddod â’r arddangosfa hon i Gymru fel Cenedl Noddfa. Dyddiadau: 1 Hydref – 27 Tachwedd
Ar y cyd â’r Heritage and Cultural Exchange, mae tair arddangosfa newydd wedi’i llunio yn y Pierhead i roi cipolwg ar fywyd ym Mhorth Teigr a’r dociau o’r 1880au i’r 1950au.
Arddangosfa newydd yn y Pierhead. Beth am ddysgu rhagor am y weledigaeth wreiddiol ar gyfer y Senedd, a gweld brasluniau pensaernïol cynnar Ivan Harbour o’r adeilad.
Mae’r arddangosfa hon yn adrodd hanes unig sgwadron wrth gefn yr Awyrlu Brenhinol yng Nghymru – Sgwadron Rhif 614 (Sir Forgannwg) – o’r adeg pan gafodd ei sefydlu ym 1937 hyd heddiw. Dyddiadau: 8 Tachwedd 2024 - 4 Ionawr 2025.
Mae ‘O fudo i wydnwch’ yn adrodd hanes y rhai a gafodd eu gorfodi i fudo ac i adeiladu bywyd o’r newydd ar ôl i bobl Asiaidd gael eu gyrru allan o Uganda ym 1972; ac mae’n dathlu treftadaeth grefyddol a diwylliannol fywiog cymunedau Asiaidd Cymru. Dyddiadau: 16 Tachwedd – 19 Rhagfyr 2024.
I gyd-fynd â Diwrnod Owain Glyndŵr, mae’r artist Dan Llywelyn Hall wedi creu cyfres o ddarluniau sy’n portreadu ffigyrau allweddol yn llys Owain. Dyddiadau: 6 Medi - 3 Hydref 2024.
Artist o Gymru yw Ella Jones ac mae hi’n arbenigo mewn creu gwaith celf rhyngweithiol creadigol sy’n ystyried cymhlethdodau canfyddiad cyffyrddol, gwead, a siapiau. Cafodd Ella ei hysbrydoli i greu ei gwaith celf ‘Hooked’ gan y dechneg bachyn clicied a gaiff ei defnyddio i greu celf tecstil gwlanog â llaw.
Mae ffotograffiaeth gyfoes Mike Perry o’r tirwedd yn agor ein llygaid i’r gwrthdaro rhwng gweithgareddau dynol, a’r angen dybryd i fynd i’r afael â’n problemau amgylcheddol.
Mae’r Senedd a’r Pierhead yn gartref i raglen reolaidd o arddangosfeydd, sy’n rhoi’r cyfle i chi godi proffil eich sefydliad neu gymuned a’i ddyheadau a’i bryderon.
Pan agorodd adeilad y Senedd am y tro cyntaf, comisiynwyd pedwar artist i greu cerfluniau fel rhan o bensaernïaeth yr adeilad. Yn fwy diweddar, comisiynwyd yr artist o Gymru Angharad Pearce Jones i greu dau gerflun ar gyfer prif fannau cyhoeddus y Senedd i alluogi pobl i gysylltu â’r Senedd a’r Aelodau sy’n eu cynrychioli, a dysgu amdanynt.
Mae'n hawdd dod o hyd i ystâd y Senedd. Gallwch gyrraedd yn y car, ar y trên, mewn bws, neu ar feic.
Dysgwch am yr hyn sy'n digwydd yn eich Senedd a sut i ymgysylltu â hi ar-lein.
Dysgwch am arddangosfeydd, gweithgareddau, teithiau a digwyddiadau sy’n digwydd yn y Senedd a'r Pierhead.