Mae'r Senedd yn arsylwi cyfnod o alaru cenedlaethol yn dilyn marwolaeth Ei Mawrhydi Y Frenhines. Mae busnes y Senedd wedi'i ohirio ac ni fydd mynediad cyhoeddus i adeilad y Senedd tan ar ôl yr Angladd Gwladol.
Cyrraedd yma
Mae'n hawdd dod o hyd i ystâd y Senedd. Gallwch gyrraedd yn y car, ar y trên, mewn bws, neu ar feic.
Cyfeiriad
Senedd Cymru, Bae Caerdydd, Caerdydd, CF99 1SN
+44 (0)300 200 6565
Yr amseroedd agor - y Senedd a'r Pierhead
Dydd Llun - Dydd Gwener: 09.00 - 16.30
Dydd Sadwrn a gwyliau banc: 10.30 - 16.30
Ceir mynediad hyd at 16.00
Noder: mae'r adeilad ar agor cyn ac ar ôl yr amseroedd agor arferol i ymwelwyr sy'n dod i wylio'r Cyfarfod Llawn, cyfarfodydd pwyllgor a busnes arall y Senedd.
Mynediad am ddim
Bydd y Senedd a'r Pierhead ar gau rhwng dydd Mercher 25 Rhagfyr 2024 a dydd Mercher 1 Ionawr 2025.
Bydd yr adeiladau ar agor fel arfer o ddydd Iau 2 Ionawr 2025.
Cyfarwyddiadau
Teithio Llesol
Mae dau leoliad ar yr ystâd ar gyfer parcio beiciau, ger mynedfeydd y Pierhead a Thŷ Hywel.
Mae llwybrau beicio i bob cyfeiriad. Mae gan wefan Cyngor Caerdydd adnoddau i’ch helpu i gynllunio'ch taith.
Bws
Mae bws y Baycar Rhif 6 yn gadael Gorsaf Heol-y-Frenhines Caerdydd, Plas Dumfries, Heol y Brodyr Llwydion, Heol Eglwys Fair neu Orsaf Ganolog Caerdydd ac mae'n stopio yn Pierhead Street ac o flaen Canolfan Mileniwm Cymru sydd gerllaw'r Senedd.
Mae bysiau rhif 7 ac 8 yn gadael Heol y Gamlas a Heol y Porth yn ôl eu trefn ac yn stopio ar Pierhead Street, taith fer (oddeutu 200 metr) o'r Senedd, Tŷ Hywel a'r Pierhead.
Am ragor o wybodaeth ewch i wefan y Baycar [sy'n agor mewn ffenestr porwr newydd]
Trên
Mae gwasanaethau’n rhedeg o Orsaf Heol y Frenhines, Caerdydd i Orsaf Bae Caerdydd. Mae’r orsaf ychydig funudau o’r Senedd, Tŷ Hywel ac adeilad y Pierhead.
Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Traveline [sy'n agor mewn ffenestr porwr newydd]
O’r Ffordd
O'r Gorllewin, gadewch yr M4 ar gyffordd 33, dilynwch yr A4232 i gyfeiriad Bae Caerdydd, a dilynwch yr arwyddion i Senedd Cymru, CF99 1SN.
O'r Dwyrain, hadewch yr Mr ar gyffordd 29, dilynwch yr A48 ac yna'r A4232 i Fae Caerdydd a dilynwch yr arwyddion i Senedd Cymru, CF99 1SN.
Parcio i Bobl Anabl
Mae lleoedd parcio ar gael ar gyfer pobl anabl ym maes parcio’r Senedd drwy drefniant ymlaen llaw. Yn achos cyfarfodydd gydag Aelodau a Gweinidogion gallwch drefnu drwy gysylltu â swyddfeydd preifat Aelodau’r Senedd neu drwy gysylltu â’r swyddogion perthnasol yn y Senedd. Er mwyn dod i’r Cyfarfod Llawn, cyfarfodydd pwyllgorau neu ar gyfer ymweliad â’r Senedd a drefnwyd ymlaen llaw, gallwch drefnu lle parcio drwy gysylltu â ni drwy switsfwrdd y Senedd. Mae lift allanol ar gael ar gyfer ymwelwyr sy'n anabl wrth yr ardal parcio i'r anabl tu allan i'r Senedd.
Fel arfer mae angen rhoi o leiaf 24 awr o rybudd, ynghyd â gwybodaeth am y cerbyd a’r gyrrwr. Rhaid i ymwelwyr ddangos bathodyn parcio i bobl anabl wrth gyrraedd.
Parcio Bws
Cysylltwch â ni am fap yn nodi ble y gall bysiau adael ymwelwyr.
Tacsi
Mae nifer o gwmnïau'n darparu gwasanaethau tacsi o ganol dinas Caerdydd i Fae Caerdydd. Mae safleoedd tacsis wedi'u lleoli ar draws y ddinas, gan gynnwys y tu allan i orsaf reilffordd Caerdydd Canolog. Y lleoliad agosaf at ystâd y Senedd yw ar Stryd Biwt ger Cei’r Forforwyn.
Parcio Ceir
Y maes parcio agosaf yw’r parc ceir aml-lawr ‘Q-Park’ ar Stryd Pierhead sydd yn daith gerdded fer o’r Senedd. Gellir cael disgownt i archebion parcio ymlaen llaw gan ddefnyddio’r cod 'SEN’. Gallai fod parcio Talu ac Arddangos ar y stryd ar gael yn agos at Ystâd y Senedd ar Harbour Drive neu mae maes parcio Talu ac Arddangos oddi ar Stryd Stuart.
Addas i'r teulu
- Croesewir bwydo ar y fron a bwydo gyda photeli.
- Mae toiled Changing Places a chyfleusterau newid babanod ar gael.
- Mae gan y Senedd ardal chwarae i blant sy’n llawn teganau, adnoddau chwarae synhwyraidd, a map mawr o Gymru. Mae wedi'i leoli'n agos at y Caffi.
- Mae'r Caffi yn cynnig cynhesu poteli a dŵr i lenwi poteli, ac mae cadeiriau uchel ar gael.
- Mae dwy ystafell dawel ar gael, gofynnwch i aelod o staff am fynediad i'r rhain neu os oes unrhyw beth y gallwn ei wneud i'ch gwneud yn fwy cyfforddus.
- Mynnwch gopi o lyfryn Llwybr Darganfod y Senedd am ddim. Wedi'i anelu at blant 5 – 7 oed, mae'r llwybr yn tynnu sylw at bum nodwedd bwysig yn yr adeilad.
- Rydym wedi datblygu'r dudalen hon i gefnogi ymwelwyr ag awtistiaeth.
Ystyriaethau cyn ymweld
- Os bydd angen cymorth cyntaf arnoch yn ystod eich ymweliad, siaradwch ag aelod o staff a fydd yn gallu’ch helpu. Mae aelodau o staff sydd wedi cael hyfforddiant cymorth cyntaf, ystafelloedd cymorth cyntaf, a phecynnau cymorth cyntaf gyda diffibrilwyr ar gael.
- Rhowch wybod i ni cyn cyrraedd os oes angen cymorth ychwanegol arnoch, yn enwedig os bydd angen gadael yr adeilad mewn argyfwng. Gallwn drefnu i gwrdd â chi wrth fynedfa'r adeilad a chreu Cynllun Personol Gadael mewn Argyfwng i chi.
Os bydd rhaid gadael yr adeilad oherwydd argyfwng, bydd y larwm tân yn canu ar ystad y Senedd. Os bydd y larwm yn canu, ewch i’r allanfa agosaf. Bydd aelod o staff (fel arfer warden tân neu staff Diogelwch) yn dangos y ffordd allan o'r adeilad ac i fan ymgynnull. - Mae'r Senedd wedi ymrwymo i gadw pawb sy’n defnyddio’r adeilad yn ddiogel. Os byddwch yn cael anaf neu os bydd damwain bron â digwydd tra byddwch ar yr ystad, rhowch wybod i aelod o staff neu cysylltwch â ni.
-
- caniatewch tua 15 munud ar gyfer mynd drwy’r broses ddiogelwch;
- efallai y bydd ciw byr y tu allan i'r adeilad cyn mynd i mewn;
- dewch â chyn lleied o eiddo â phosibl i’r adeilad. Ni chaniateir cludfwyd na diodydd;
- bydd ein caffi, siop, toiledau a'n cyfleuster Changing Places ar agor, ond bydd yr ystafell gotiau ar gau.
- Wi-Fi ar gael yn rhad ac am ddim.
Ar ôl cyrraedd bydd aelod o’n tîm yn rhoi esboniad byr i chi o'r hyn i'w ddisgwyl yn yr adeilad.