Cyn mis Mai 2017, gallai'r Aelodau wneud cais i ofyn Cwestiwn Brys yn y Cyfarfod Llawn, ond dim ond os byddai'r Llywydd (neu'r Dirprwy Lywydd mewn cysylltiad â Chwestiwn i'r Comisiwn) yn fodlon bod y cwestiwn o bwysigrwydd cyhoeddus brys. Daeth y weithdrefn hon i ben ym mis Mai 2017 pan gyflwynwyd trefn newydd ar gyfer Cwestiynau Brys a slot wythnosol bob dydd Mercher yn y Cyfarfod Llawn ar gyfer Cwestiynau Amserol.
Dyddiad cyflwyno | Cwestiwn brys | Penderfyniad |
---|---|---|
5 Ebrill |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg Darren Millar (Clwyd West): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am yr Arolwg Cenedlaethol o'r Gweithlu Addysg, a gyhoeddwyd heddiw, ac a ganfu bod dros draean o athrawon ysgol yng Nghymru yn bwriadu gadael y proffesiwn yn ystod y tair blynedd nesaf? |
Ni chafodd ei ganiatáu. |
4 Ebrill |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael â Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn dilyn cyhoeddi'r posibilrwydd o golli swyddi ac uno safleoedd? |
Ni chafodd ei ganiatáu. |
4 Ebrill |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): Pa sylwadau y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn eu gwneud i Lywodraeth y DU ynghylch y cais am loches a wrthodwyd mewn cysylltiad â'r teulu Rebwah o Irac, sydd bellach yn byw yn Abertawe? |
Ni chafodd ei ganiatáu. |
29 March |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cyhoeddiad i roi terfyn ar swyddi Cadeirydd ac Is-gadeirydd Chwaraeon Cymru? |
Ni chafodd ei ganiatáu. |
29 March |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am reolaeth Chwaraeon Cymru yn y dyfodol yn dilyn ei phenderfyniad i roi terfyn ar swyddi Cadeirydd ac Is-gadeirydd y sefydliad? |
Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 29 Mawrth 2017. |
28 Mawrth |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant Vikki Howells (Cwm Cynon): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ymateb Llywodraeth Cymru i'r nifer fawr o danau glaswellt dros y penwythnos? |
Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 28 Mawrth 2017 |
28 Mawrth |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y gorwariant o £150 miliwn gan fyrddau iechyd lleol eleni? |
Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 28 Mawrth 2017 |
22 Mawrth |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant Eluned Morgan (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cynnal ynghylch y broses benodi ar gyfer Esgob Llandaf, yn sgil adroddiadau na chafodd ymgeisydd ei ddethol ar sail ei gyfeiriadedd rhywiol? |
Ni chafodd ei ganiatáu. |
22 Mawrth |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cynnal yn sgil cynlluniau'r Weinyddiaeth Gyfiawnder i adeiladu carchar newydd ym Mhort Talbot? |
Ni chafodd ei ganiatáu. |
22 Mawrth |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant David Rees (Aberafan): Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cynnal â Llywodraeth y DU ynghylch y penderfyniad i adeiladu carchar ym Mhort Talbot? |
Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 22 Mawrth 2017 |
21 Mawrth |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon Jeremy Miles (Castell-nedd): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddefnyddio proffylacsis cyn-gysylltiol, yn dilyn adolygiad o dystiolaeth a ryddhawyd heddiw gan Grŵp Arbenigol HIV Iechyd Cyhoeddus Cymru? |
Ni chafodd ei ganiatáu. |
15 Mawrth |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol ar gyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru? |
Ni chafodd ei ganiatáu. |
15 Mawrth |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am yr hyn a ddatgelwyd yn ddiweddar ynghylch Chwaraeon Cymru yn dilyn adroddiad a ryddhawyd yn answyddogol gan Deloitte a oedd yn tynnu sylw at bryderon difrifol ynghylch y ffordd y dyfarnodd y sefydliad gontractau i gwmnïau fel Unforgiving Minute a Beaufort Research? |
Ni chafodd ei ganiatáu. |
14 Mawrth |
Gofyn i Brif Weinidog Cymru Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa ystyriaeth y mae'r Prif Weinidog wedi'i rhoi i gynnal refferendwm ar annibynniaeth i Gymru yn sgil ail refferendwm arfaethedig ar annibynniaeth i'r Alban? |
Ni chafodd ei ganiatáu. |
14 Mawrth |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am adroddiad diweddar y Cenhedloedd Unedig ar effeithiau iechyd posibl glofa glo brig Ffos-y-Fran? |
Ni chafodd ei ganiatáu. |
14 Mawrth |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru yn dilyn y farn amodol a roddwyd arnynt gan Archwilydd Cyffredinol Cymru? |
Ni chafodd ei ganiatáu. |
14 Mawrth |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am effeithiau iechyd posibl glofa glo brig Ffos-y-Fran, yn dilyn y cyhoeddiad yr wythnos diwethaf gan rapporteur arbennig y Cenhedloedd Unedig ar wastraff a sylweddau peryglus? |
Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 14 Mawrth 2017 |
14 Mawrth |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am yr achos o danseilio diogelwch data a effeithiodd ar staff y GIG sy'n defnyddio mesuryddion dognau o ymbelydredd? |
Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 14 Mawrth 2017 |
|
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg Lee Waters (Llanelli): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y methiant i benodi cynrychiolydd o Gymru ar fwrdd y BBC? |
Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 14 Mawrth 2017 |
14 Mawrth |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddyfodol hirdymor y cyswllt awyr rhwng y gogledd a'r de a gaiff gymorthdaliadau, yn sgil y newyddion bod Citywing wedi cael ei ddiddymu? |
Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 14 Mawrth 2017. |
8 Mawrth |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol Neil Hamilton (Mid and West Wales): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu dyrannu'r £200 milin ychwanegol i grant bloc Cymru a amlinellir yng nghyllideb Llywodraeth y DU? |
Ni chafodd ei ganiatáu. |
8 Mawrth |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith Andrew RT Davies (South Wales Central): Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cynnal yn sgil cau canolfan forgeisi Barclays yn Llanisien, gan arwain at golli 180 o swyddi? |
Ni chafodd ei ganiatáu. |
8 Mawrth |
Gofyn i Brif Weinidog Cymru Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cynnal ynghylch statws Bil yr Undeb Ewropeaidd (Hysbysiad o Adael) o gofio bod pleidlais ddoe yn Nhŷ'r Arglwyddi yn mynd yn groes i'r farn a fynegwyd gan bobl Cymru? |
Ni chafodd ei ganiatáu. |
7 Mawrth |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y diffyg adnoddau addysgu dwyieithog a'r effaith y mae hyn yn ei chael ar addysg Gymraeg? |
Ni chafodd ei ganiatáu. |
7 Mawrth |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith Steffan Lewis (Dwyrain De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi ddatganiad am benderfyniad Newsquest i gau'r ganolfan gynhyrchu yng Nghasnewydd? |
Ni chafodd ei ganiatáu. |
7 Mawrth |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Maes Awyr Caerdydd? |
Ni chafodd ei ganiatáu. |
7 Mawrth |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith Caroline Jones (Gorllewin De Cymru): Pa sylwadau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gwneud i Lywodraeth y DU yn dilyn y newyddion bod bargen Dinas-ranbarth Bae Caerdydd yn barod i'w llofnodi yr wythnos hon? |
Ni chafodd ei ganiatáu. |
7 Mawrth |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith Hannah Blythyn (Delyn): Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael ar ddyfodol swyddi i weithwyr o Gymru a gaiff eu cyflogi yng ngwaith Vauxhall yn Ellesmere Port, yn sgil cyhoeddiad General Motors ei fod yn bwriadu gwerthu Vauxhall i Peugeot? |
Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 7 Mawrth 2017. |
1 Mawrth |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith Huw Irranca–Davies (Ogwr): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddyfodol gwaith Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr, oherwydd y dyfalu diweddar ynghylch colli swyddi? |
Ni chafodd ei ganiatáu. |
1 Mawrth |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad ynghylch honiadau sydd wedi'u gwneud heddiw gan yr Undeb UNITE y bydd 1,160 o swyddi yng ngwaith adeiladu peiriannau Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn cael eu colli erbyn 2021? |
Ni chafodd ei ganiatáu. |
1 Mawrth |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith Caroline Jones (Gorllewin De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y camau a gymerwyd heddiw gan yr undeb UNITE yng ngwaith adeiladu peiriannau Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a goblygiadau hyn o ran parhad buddsoddiad Ford? |
Ni chafodd ei ganiatáu. |
1 Mawrth |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am adroddiadau bod Ford yn bwriadu cael gwared â dros 1,000 o swyddi o'i waith adeiladu peiriannau ym Mhen-y-bont ar Ogwr? |
Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 1 Mawrth 2017. |
28 Chwefror |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am farwolaeth drasig merch bum mlwydd oed o Gasnewydd oedd ag asthma, wedi i'w meddyg teulu wrthod ei gweld am ei bod wedi cyrraedd ei hapwyntiad ychydig funudau yn hwyr? |
Ni chafodd ei ganiatau. |
28 Chwefror |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ffigurau Llywodraeth Cymru, sy'n dangos bod un practis meddygon teulu yn cau bob mis ar gyfartaledd yng Nghymru? |
Ni chafodd ei ganiatau. |
28 Chwefror |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith Russell George (Montgomeryshire): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad brys yn dilyn penderfyniad yr Awdurdod Hedfan Sifil i gadw'r awyren sy'n hedfan rhwng Caerdydd ac Ynys Môn ar y ddaear am resymau diogelwch? |
Ni chafodd ei ganiatau. |
28 Chwefror |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y cyhoeddiad y bydd 60 o swyddi Gyrfa Cymru yn cael eu colli? |
Ni chafodd ei ganiatau. |
15 Chwefror 2017 |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith David Rees (Aberafan): Yn dilyn y cyhoeddiad heddiw mewn perthynas â balot gweithlu Tata ynghylch dur, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad ynghylch pa drafodaethau y mae wedi'u cael i sicrhau bod yr ymrwymiad i fuddsoddi mewn cynhyrchu dur ym Mhort Talbot yn ddiogel? |
Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 15 Chwefror 2017 |
14 Chwefror 2017. |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad yn dilyn adroddiad Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar y cwmni Kancoat o Abertawe? |
Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 14 Chwefror 2017. |
8 Chwefror 2017 |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau a yw, bellach, yn bwriadu cefnogi datblygu Cylchffordd Cymru, yn dilyn adroddiadau bod yr Heads of the Valleys Development Company wedi sicrhau'r cyllid preifat sydd ei angen ar gyfer ei adeiladu? |
Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 8 Chwefror 2017.
|
8 Chwefror 2017 |
Gofyn i Brif Weinidog Cymru Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Yn dilyn pleidlais Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn nadl Llywodraeth Cymru ddoed, a wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad i gadarnhau ei bod yn parhau i fod yn bolisi Llywodraeth Cymru i weithredu ar ddymuniadau pobl Cymru fel y'u mynegwyd yn y refferendwm ar 23 Mehefin a chefnogi tanio Erthygl 50? |
Ni chafodd ei ganiatáu. |
7 Chwerfor 2017. |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu dyfodol ffatri Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr? |
Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 2017201720172017 |
7 Chwefror 2017. |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi gwybod i'r Aelodau a yw'n bwriadu cymeradwyo cais Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant am grant o rhwng £4 miliwn a £6 miliwn i ariannu'r gwaith o ddatblygu pencadlys newydd S4C yng Nghaerfyrddin? |
Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 201720172017 |
7 Chwefror 2017. |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): Yn sgil y newyddion bod Cyngor Gwynedd am roi'r gorau i ariannu Amgueddfa Lloyd George, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau a yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu cefnogi dyfodol hirdymor yr amgueddfa? |
Ni chafodd ei ganiatáu. |
7 Chwefror 2017. |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddiogelwch cynllun Rhentu Doeth Cymru, yn dilyn methiannau diogelu data yng Nghyngor Caerdydd, a arweiniodd at ryddhau manylion cannoedd o landlordiaid? |
Ni chafodd ei ganiatáu. |
7 Chwefror 2017. |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg Neil McEvoy (Canol De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gau tair o ysgolion Caerdydd yn rhannol, sef Ysgol Uwchradd Cantonian, Ysgol Uwchradd Willows a Choleg Michaelston? |
Ni chafodd ei ganiatáu. |
7 Chwefror 2017. |
Gofyn i Brif Weinidog Cymru Neil McEvoy (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ymateb i dystiolaeth a gyflwynwyd gan Public Affairs Cymru i'r Pwyllgor Safonau a oedd yn nodi bod dros hanner ei aelodau wedi cael cais i ailystyried safbwyntiiau neu i beidio â dweud rhai pethau pan nad yw Llywodraeth Cymru yn cytuno? |
Ni chafodd ei ganiatáu. |
1 Chwefror 2017. |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith Suzy Davies (Gorllewin De Cymru) A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddyfodol Celfyddydau Busnes Cymru yn sgil y newyddion bod Cyngor Celfyddydau Cymru wedi tynnu ei gefnogaeth i'r elusen yn ôl? |
Ni chafodd ei ganiatáu. |
1 Chwefror 2017. |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ar wasanaethau offthalmoleg yng Nghymru? |
Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawr ar 1 Chwefror 2017. |
31 Ionawr 2017 |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gau Uned Mân Anafiadau Llandrindod dros nos am gyfnod dros dro? |
Ni chafodd ei ganiatáu. |
31 Ionawr 2017 |
Gofyn i Brif Weinidog Cymru Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni): Yn dilyn cyhoeddiad Arlywydd yr Unol Daleithiau, yn gwahardd gwladolion o nifer o wledydd lle mae'r rhan fwyaf o bobl yn Fwslemiaid, rhag teithio i'r Unol Daleithiau am 90 niwrnod, pa asesiad y mae Prif Weinidog Cymru wedi'i wneud o effaith hyn ar Fwslemiaid yng Nghymru sydd â chenedligrwydd deuol? |
Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 31 Ionawr 2017 |
31 Ionawr 2017 |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am atal prif weithredwr bwrdd y cynghorau iechyd cymuned o'i waith, yn sgil adroddiadau y cafodd ei atal o'i waith ar gyflog llawn bron i flwyddyn yn ôl? |
Ni chafodd ei ganiatáu. |
31 Ionawr 2017 |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu'r cymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi yn dilyn cau swyddfa'r Adran Gwaith a Phensiynau yn Llanelli, gan arwain at golli 146 o swyddi? Lee Waters (Llanelli): Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael ynghylch y posibilrwydd o golli swyddi, yn sgil cau swyddfeydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn Llanelli ac mewn rhannau eraill o Gymru? |
Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 31 Ionawr 2017 |
25 Ionawr 2017 |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am yr effaith ar wasanaethau iechyd a gaiff streic y staff ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg? |
Ni chafodd ei ganiatáu. |
24 Ionawr 2017 |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant David Rees (Aberafan): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gamau diweddar Llywodraeth Cymru mewn perthynas â thynnu cyllid oddi ar raglenni Cymunedau yn Gyntaf a Chymunedau dros Waith yn NSA Afan? |
Ni chafodd ei ganiatáu. |
24 Ionawr 2017 |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Yng ngoleuni ffigurau Iechyd Cyhoeddus Cymru, a oedd yn dangos bod nifer y menywod rhwng 25 a 64 oed a gaiff brawf sgrinio serfigol ar ei isaf ers 10 mlynedd, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i atal y gostyngiad hwn? |
Ni chafodd ei ganiatáu. |
18 Ionawr 2017 |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am reoleiddio gorsaf bŵer Aberddawan, yn dilyn penderfyniad Llys Cyfiawnder Ewrop ym mis Medi 2016 bod allyriadau'r gwaith hwn yn uwch na'r cyfyngiadau ar gyfer llygredd aer? |
Ni chafodd ei ganiatáu. |
17 Ionawr 2017 |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gyflwr GIG Cymru yn dilyn adroddiadau bod cleifion yn aros dros 24 awr ar droliau yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant? |
Ni chafodd ei ganiatáu. |
17 Ionawr 2017 |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith Mark Reckless (Dwyrain De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddyfodol tollau ar Bontydd Hafren? |
Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 17 Ionawr 2017. |
17 Ionawr 2017 |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am atal cyllid Llywodraeth Cymru i NSA Afan? |
Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 17 Ionawr 2017.
|
11 Ionawr 2017 |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y chwaraewr rygbi o Glwb Rygbi Ynysddu y bu'n rhaid iddo, ar ôl torri ei wddf yn chwarae rygbi ddydd Sadwrn, aros am bron i ddwyawr am ambiwlans? |
Ni chafodd ei ganiatáu. |
10 Ionawr 2017 |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad ynghylch y sylwadau a wnaeth y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys fod gofal brys yng Nghymru mewn argyfwng? EAQ(5)0097(HWS) |
Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 10 Ionawr 2017.
|
10 Ionawr 2017 |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad ynghylch y cytundeb ar gyfer y fframwaith cyllidol a gyhoeddwyd cyn y Nadolig? |
Ni chafodd ei ganiatáu. |
10 Ionawr 2017 |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad ynghylch penderfyniad Llywodraeth Cymru i gael gwared ar ei chynllun gwerth £15 miliwn teithio rhatach ar fysiau i bobl ifanc? |
Ni chafodd ei ganiatáu. |
14 Rhagfyr 2016 |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Gweinidog ddarparu rhagor o fanylion am y Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru, gwerth sawl biliwn o bunnoedd, a gyhoeddwyd heddiw? EAQ(5)0100(EI)
|
Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 14 Rhagfyr 2016.
|
14 Rhagfyr 2016 |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cyhoeddiad heddiw ar yr ymchwiliad cyhoeddus i ffordd liniaru arfaethedig yr M4? EAQ(5)0099(EI) |
Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 14 Rhagfyr 2016.
|
14 Rhagfyr 2016 |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Llywodraeth ddatganiad am effaith bwriad Llywodraeth y DU i leihau darpariaeth Swyddfeydd Post mewn ardaloedd gwledig? EAQ(5)0092(CC)W |
Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 14 Rhagfyr 2016.
|
14 Rhagfyr 2016 |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith Gareth Bennett (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Aston Martin i adeiladu ffatri newydd yn Sain Tathan, a fydd yn cyflogi 750 o weithwyr â sgiliau uchel, yn dilyn y cyhoeddiad fore heddiw? |
Ni chafodd ei ganiatáu. |
13 Rhagfyr 2016. |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am arolwg staff GIG Cymru, a ganfu mai dim ond 30 y cant o gyflogeion oedd yn teimlo bod digon o staff iddynt wneud eu gwaith yn iawn? |
Ni chafodd ei ganiatáu. |
13 Rhagfyr 2016. |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am adolygiad Llywodraeth Cymru o ofal cleifion sydd â salwch aciwt yn dilyn ymchwiliad beirniadol iawn yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus i ofal claf 93 oed yn Ysbyty Brenhinol Gwent? |
Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 13 Rhagfyr 2016.
|
7 Rhagfyr 2016 |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynglŷn â chamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i warchod adar Cymru rhag ffliw adar? |
Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 7 Rhagfyr 2016. |
7 Rhagfyr 2016 |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddatganoli masnachfraint rheilffyrdd Cymru a'r Gororau, yn dilyn sylwadau gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth ddoe sy'n awgrymu na fydd Llywodraeth y DU yn datganoli'r fasnachfraint yn ei chyfanrwydd? |
Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 7 Rhagfyr 2016.
|
7 Rhagfyr 2016 |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff Llywodraeth Cymru ddatganiad am ganlyniad trafodaethau diweddar rhwng Tata Steel a'r Undebau ynghylch dyfodol ei weithgareddau yng Nghymru a Phrydain?
|
Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 7 Rhagfyr 2016.
|
6 Rhagfyr 2016. |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon Caroline Jones (Gorllewin De Cymru): Pa gamau y bydd y Gweinidog yn eu cymryd i fynd i'r afael â chyfraddau hunanladdiad yng Ngorllewin De Cymru, o ystyried bod ffigurau diweddar yn dangos mai yng Nghastell-nedd Port Talbot y mae'r cyfraddau uchaf o hunanladdiad yng Nghymru a Lloegr? |
Ni chafodd ei ganiatáu. |
6 Rhagfyr 2016. |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr achosion o facteria sy'n gallu gwrthsefyll gwrthfiotigau, sydd wedi heintio nifer o gleifion a pheri i un ward gyfan gael ei chau yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant? |
Ni chafodd ei ganiatáu. |
6 Rhagfyr 2016. |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am Ganolfan Feddygol Rhiwabon yn Wrecsam sydd wedi dod â'i chontract gyda'r GIG i ben ar ôl methu â llenwi dwy swydd wag am feddygon? |
Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 6 Rhagfyr 2016.
|
6 Rhagfyr 2016. |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): Yn dilyn penderfyniad y Comisiynydd Traffig i ddirymu trwydded gweithredwr cerbydau gwasanaeth cyhoeddus RJ's o Wem, a wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol gwasanaethau bysiau yng ngogledd-ddwyrain Cymru? |
Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 6 Rhagfyr 2016.
|
30 Tachwedd 2016 |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am adroddiad yr Ombwdsmon a oedd yn cyfeirio at driniaeth wael wrth ryddhau claf o Ysbyty Brenhinol Morgannwg, gan arwain at ei farwolaeth 24 awr yn ddiweddarach? |
Ni chafodd ei ganiatáu. |
30 Tachwedd 2016 |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am adroddiadau ynghylch ymchwiliad yr heddlu i gam-drin rhywiol hanesyddol mewn pêl-droed yng ngogledd Cymru? |
Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 30 Tachwedd 2016
|
30 Tachwedd 2016 |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am adroddiadau ynghylch y posibilrwydd o golli swyddi yng ngwaith dur Tata Steel ym Mhort Talbot? |
Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 30 Tachwedd 2016
|
29 Tachwedd 2016 |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am drafodaethau y mae wedi'u cael â Trinity Mirror ynghylch y cynnig i gau gwaith argraffu'r cwmni yng Nghaerdydd, gan golli 33 o swyddi ar y safle? |
Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 30 Tachwedd 2016 |
29 Tachwedd 2016. |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon Andrew RT Davies (South Wales Central): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am Wasanaeth Ambiwlans Cymru yn dilyn dau ddigwyddiad yn Ysbyty Athrofaol Cymru? |
Ni chafodd ei ganiatáu. |
29 Tachwedd 2016. |
Gofyn i'r Cwnsler Cyffredinol Jeremy Miles (Neath): A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol amlinellu ei asesiad o oblygiadau cyfreithiol posibl y cyfreitha a fwriedir yn erbyn Llywodraeth y DU mewn cysylltiad ag Erthygl 127 o'r Cytundeb Ardal Economaidd Ewropeaidd? |
Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 29 Tachwedd 2016 |
29 Tachwedd 2016 |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnydd y cynlluniau i sefydlu canolfan Yr Egin yng Nghaerfyrddin? W |
Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 29 Tachwedd 2016
|
29 Tachwedd 2016 |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y penderfyniad i atal gweithgareddau bwrdd Chwaraeon Cymru dros dro? |
Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 29 Tachwedd 2016
|
22 Tachwedd 2016 |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr anawsterau difrifol roedd ambiwlansys yn eu hwynebu ddydd Sul yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd? |
Ni chafodd ei ganiatáu. |
22 Tachwedd 2016 |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon Eluned Morgan (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr opsiynau a gyflwynodd Bwrdd Iechyd Hywel Dda i leihau gwasanaethau paediatrig dros dro yn Ysbyty Llwynhelyg? EAQ(5)0077(HWS) |
Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 22 Tachwedd 2016 |
22 Tachwedd 2016 |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith Russell George (Montgomeryshire): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau i symleiddio byrddau cynghori economaidd Llywodraeth Cymru? EAQ(5)0076(EI) |
Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 22 Tachwedd 2016 |
22 Tachwedd 2016 |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lefelau staffio yn safle Tata ym Mhort Talbot? EAQ(5)0075(EI) |
Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 22 Tachwedd 2016 |
16 Tachwedd 2016. |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant Neil McEvoy (Canol De Cymru): Gan fod llai na hanner y landlordiaid wedi cofrestru ar gynllun Rhentu Doeth Cymru, a wnaiff y Gweinidog ystyried ymestyn dyddiad cau yr wythnos nesaf? |
Ni chafodd ei ganiatáu. |
15 Tachwedd 2016. |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant |
Ni chafodd ei ganiatáu. |
15 Tachwedd 2016. |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Yn sgil penderfyniad Grŵp Bancio Lloyds i gau tair o'i ganghennau ym Mhreseli Sir Benfro, pa asesiadau y bydd y Gweinidog yn eu gwneud o effaith y penderfyniad hwn ar gymunedau yn Sir Benfro? |
Ni chafodd ei ganiatáu. |
15 Tachwedd 2016. |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu defnyddio'r cyllid ardoll prentisiaethau yn dilyn y cytundeb â Llywodraeth y DU? |
Ni chafodd ei ganiatáu. |
9 Tachwedd 2016. |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant Neil McEvoy (Canol De Cymru): Yn sgil y tebygolrwydd buan y caiff Bashir Naderi ei orfodi i adael y DU ddydd Mawrth nesaf, a wnaiff y Gweinidog ystyried gwneud sylwadau i rwystro hyn rhag digwydd? |
Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 9 Tachwedd 2016 |
9 Tachwedd 2016. |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch adroddiad yr Ombwdsmon, a ganfu 'methiant systemig' mewn gofal claf canser yn Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan? |
Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 9 Tachwedd 2016 |
8 Tachwedd 2016. |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant Neil McEvoy (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog esbonio pam mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod cyhoeddi datganiad o gefnogaeth i Bashir Naderi, o gofio ei fod yn dal i wynebu'r bygythiad o gael ei orfodi i adael y DU? |
Ni chafodd ei ganiatáau. |
8 Tachwedd 2016. |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant Eluned Morgan (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael â Llywodraeth y DU yn sgil cyhoeddiad y Weinyddiaeth Amddiffyn ei bod yn bwriadu cau nifer o safleoedd yng Nghymru? Paul Davies (Preseli Pembrokeshire): Yn sgil bwriad Llywodraeth y DU i gau Barics Cawdor ym Mreudeth, a wnaiff y Gweinidog amlinellu pa asesiadau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cynnal o effaith y penderfyniad hwn ar ddatblygu economaidd yn Sir Benfro? Joyce Watson (Mid and West Wales): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am adolygiad o dir y Weinyddiaeth Amddiffyn, gan gynnwys cynlluniau i werthu tri safle milwrol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? |
Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 8 Tachwedd 2016. |
8 Tachwedd 2016. |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith Neil McEvoy (Canol De Cymru): A wnaiff Llywodraeth Cymru roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y defnydd o dir lle mae'r Dr Who Experience wedi'i leoli ar hyn o bryd, yn sgil y cyhoeddiad y bydd yn cau yn ystod haf 2017? |
Ni chafodd ei ganiatáu. |
8 Tachwedd 2016 |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cyfleoedd economaidd a gaiff eu creu yn sgil cyhoeddi lleoli'r Ganolfan Atgyweirio F-35 yng Ngogledd Cymru? |
Ni chafodd ei ganiatáu. |
1 Tachwedd 2016 |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni): Beth yw ymateb Llywodraeth Cymru i'r cyhoeddiad bod 400 o swyddi mewn perygl oherwydd penderfyniad Grŵp 2 Sisters Food i symud ei holl wasanaethau manwerthu o Ferthyr Tudful i Gernyw? |
Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 2 Tachwedd 2016. |
31 Hydref 2016 |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant Lee Waters (Llanelli): Pa sylwadau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u rhoi i Lywodraeth y DU ynghylch penderfyniad y Swyddfa Gartref i beidio â chynnal ymchwiliad i ddigwyddiadau yn Orgreave? |
Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 1 Tachwedd 2016. |
31 Hydref 2016 |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i drydedd rhedfa yn Heathrow? |
Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 1 Tachwedd 2016. |
31 Hydref 2016 |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant Neil McEvoy (Canol De Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael â Llywodraeth y DU ynghylch allgludo'r dyn ifanc o Gaerdydd, Bashir Naderi, sydd yn ei arddegau? |
Ni chafodd ei ganiatáu. |
28 Hydref 2016 |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog esbonio pam y cafodd y gweinyddwyr eu galw i Main Port Engineering yn Sir Benfro, er gwaethaf i'r cwmni gael grant o £650,000 gan Lywodraeth Cymru? |
Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 1 Tachwedd 2016. |
26 Hydref 2016 |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol gwasanaethau paediatrig yn Ysbyty Llwyn Helyg? |
Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 1 Tachwedd 2016. |
13 Hydref 2016 |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am rôl Trafnidiaeth Cymru yn y broses gaffael i weithredu gwasanaethau rheilffordd yng Nghymru, yn dilyn y cyhoeddiad bod pedwar ymgeisydd yn cystadlu am fasnachfraint nesaf Cymru a'r Gororau? EAQ(5)0055(EI) |
Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 18 Hydref 2016.
|
13 Hydref 2016 |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am astudiaeth Mynegai Cynnydd Cymdeithasol Rhanbarthol yr UE sy'n rhoi addysg Cymru ar y gwaelod o blith gwledydd y DU? |
Ni chafodd ei ganiatáu. |
12 Hydref 2016 |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith Adam Price: Beth yw ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiadau bod British Airways yn ystyried torri 66 o swyddi yn ei gyfleuster cynnal a chadw ym Maes Awyr Caerdydd? |
Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 12 Hydref 2016. |
11 Hydref 2016 |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith Andrew RT Davies: Yng ngoleuni tystiolaeth yr Adran Drafnidiaeth, a wnaiff y Gweinidog ddatganiad brys am benderfyniad Llywodraeth Cymru i oedi cyn cynnal ymchwiliad cyhoeddus i’r M4? |
Ni chafodd ei ganiatáu. |
11 Hydref 2016 |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig Andrew RT Davies: A wnaiff y Gweinidog amlinellu’r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i liniaru effeithiau amgylcheddol niweidiol yr olew a gollwyd ar yr A48 yn Sir Gaerfyrddin? |
Ni chafodd ei ganiatáu. |
5 Hydref 2016 |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon |
Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 5 Hydref 2016 |
4 Hydref 2016 |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad brys am gynnydd unrhyw gynlluniau ar gyfer canolfan arbenigol a gofal critigol yng Nghwmbrân? |
Ni chafodd ei ganiatáu. |
4 Hydref 2016 |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon Steffan Lewis (Dwyrain De Cymru): Yn dilyn ymddiswyddiad prif gwnsler yr ymchwiliad annibynnol i achosion hanesyddol o gam-drin plant yng Nghymru a Lloegr, pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r ffordd orau o gefnogi plant sydd wedi cael eu cam-drin? |
Ni chafodd ei ganiatáu. |
4 Hydref 2016 |
Gofyn i Brif Weinidog Cymru Steffan Lewis (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y goblygiadau i Gymru yn sgil argymhelliad Prif Weinidog y DU o ran y Bil diddymu cyfraith yr UE? |
Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 4 Hydref 2016. |
4 Hydref 2016 |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau i uno elfennau o Amgueddfa Cenedlaethol Cymru â Cadw? |
Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 4 Hydref 2016 |
27 Medi 2016 |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y tán sglodion coed yn Heol y Cyw? |
Ni chafodd ei ganiatáu. |
20 Medi 2016 |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith
|
Ni chafodd ei ganiatáu. |
13 Medi 2016 |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith Andrew RT Davies (South Wales Central): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fuddsoddiad posibl Llywodraeth Cymru gyda Tata Steel yng ngwaith dur Port Talbot? |
Ni chafodd ei ganiatáu. |
13 Medi 2016 |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon Simon Thomas (Mid and West Wales): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am Fyrddau Iechyd Prifysgolion Abertawe Bro Morgannwg, Caerdydd a'r Fro a Hywel Da yn sgil eu codi i statws ymyrraeth wedi'i thargedu? |
Wedi'i ganiatáu: Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn 13 Medi 2016 |
13 Medi 2016 |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyhoeddiad Ford y bydd yn cynhyrchu llai o beiriannau yn ei ffatri ym Mhen-y-bont ar Ogwr? |
Wedi'i ganiatáu: Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn 13 Medi 2016 |
11 Gorffennaf 2016 |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith David Rees (Aberafan): A wnaiff y Gweinidog roi manylion y trafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cael â TATA Steel a Llywodraeth y DU yn dilyn cyhoeddi bwriad TATA i atal y broses o werthu ei weithfeydd gwneud dur yn y DU? EAQ(5)0036(EI) |
Wedi'i ganiatáu: Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn 12 Gorffennaf 2016 |
4 Gorffennaf 2016 |
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Yn dilyn datganiad Llywodraeth y DU ynghylch dyfodol dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd sydd yn byw yn y DU, a wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am safbwynt Llywodraeth Cymru? EAQ(5)0105(FM) |
Wedi'i ganiatáu: Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn 5 Gorffennaf 2016 |
24 Mai 2016 |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch y newyddion bod y cymorth a roddir ar gyfer astudiaeth ôl-radd ran-amser yng Nghymru wedi dod i ben? EAQ(5)0001(EDU) |
Wedi'i ganiatáu: Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 24 Mai 2016 |
23 Mai 2016 |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer ad-drefnu llywodraeth leol, yng ngoleuni sylwadau cyn-arweinydd Cyngor Caerdydd nad yw am weld ad-drefnu o'r brig i'r bôn yn cael ei orfodi ar awdurdodau lleol? |
Ni chafodd ei ganiatáu. |
23 Mai 2016 |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fynediad i feddygon teulu yng ngogledd Cymru, yng ngoleuni penderfyniad meddygfa Llys Meddyg yng Nghonwy i ddod â'i chontract gyda'r GIG i ben? |
Ni chafodd ei ganiatáu. |
23 Mai 2016 |
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y dulliau economaidd datganoledig sy'n cael eu defnyddio gan Lywodraeth Cymru i sicrhau dyfodol y diwydiant dur yng Nghymru? |
Ni chafodd ei ganiatáu. |