- Enillydd y balot: Bethan Jenkins AC, Bil 055, Bil Llythrennedd Ariannol.
O bryd i'w gilydd, rhaid i'r Llywydd gynnal balot i benderfynu ar enw Aelod, heblaw aelod o'r Llywodraeth, a gaiff ofyn am gytundeb y Cynulliad i gyflwyno Bil.
- Darllenwch y wybodaeth cyn y balot ar y Bil Llythrennedd Ariannol
Rhaid i Aelod ddarparu "gwybodaeth cyn y balot" yn nodi bwriad y Bil arfaethedig.
Os bydd y Cynulliad yn cytuno i gyflwyno Bil o'r fath, gall enillydd y Balot ymgynghori ar ei gynigion cyn cyflwyno'r Bil yn ffurfiol.
Prif Gerrig Milltir | Manylion |
---|---|
Dyddiad y Ballot | 17 Gorffennaf 2013 |
Y ddadl y cytunodd y Cynulliad ynddi y câi enillydd y Balot gyflwyno Bil, gan arwain at roi gwybodaeth cyn y balot | 16 Hydref 2013 |
ymgynghoriadau a gwaith allgymorth i lywio'r modd y mae'r Aelod yn datblygu'r Bil | Y Bil Addysg a Chynhwysiant Ariannol (Cymru) - Ymgynghoriad - Daeth i ben ym mis Ebrill 2014 |
Dyddiad cyflwyno'r Bil yn ffurfiol | 15 Gorffennaf 2015 |
Gwybodaeth am hynt deddfwriaethol y Bil wedi'i gyflwyno | Y Bil Addysg a Chynhwysiant Ariannol (Cymru) |
Teitl gwreiddiol y Bil hwn oedd y Bil Llythrennedd Ariannol.
Ar ôl i'r Cynulliad gytuno ar gyflwyno'r Bil a wnaeth roi ar waith yr ymgynghoriad ar wybodaeth cyn y balot er mwyn llywio datblygiad y Bil, newidiodd Bethan Jenkins AC ei deitl i'r Bil Addysg a Chynhwysiant Ariannol (Cymru).