- Enillydd y balot: Darren Millar AC, Bill 050: Bil Safleoedd Carafannau Gwyliau (Cymru)
O bryd i'w gilydd, rhaid i'r Llywydd gynnal balot i benderfynu ar enw Aelod, heblaw aelod o'r Llywodraeth, a gaiff ofyn am gytundeb y Cynulliad i gyflwyno Bil.
- Darllenwch y wybodaeth cyn balot ar y Bil Meysydd Carafannau Gwyliau (Cymru).
Rhaid i Aelod ddarparu gwybodaeth cyn y balot yn nodi bwriad y Bil arfaethedig.
Os bydd y Cynulliad yn cytuno i gyflwyno Bil o'r fath, gall enillydd y Balot ymgynghori ar ei gynigion cyn cyflwyno'r Bil yn ffurfiol.
Prif Gerrig Milltir | Manylion |
---|---|
Dyddiad y Ballot | 24 Ebrill 2013 |
Y ddadl y cytunodd y Cynulliad ynddi y câi enillydd y Balot gyflwyno Bil, gan arwain at roi gwybodaeth cyn y balot | 19 Mehefin 2013 |
Ymgynghoriadau i lywio'r modd y mae'r Aelod yn datblygu'r Bil | Ymgynghoriad ar y Bil Meysydd Carafannau Gwyliau (Cymru) - daeth i ben mis Medi 2013 Ymgynghoriad ar y Bil Meysydd Carafannau Gwyliau (Cymru) drafft - daeth i ben ym mis Ionawr 2014 |
Dyddiad cyflwyno'r Bil yn ffurfiol | 17 Mawrth 2014 |
Gwybodaeth am hynt ddeddfwriaethol y Bil wedi'i gyflwyno | Y Bil Safleoedd Carafannau Gwyliau (Cymru) |