- Enillydd y balot: Peter Black, Bil 010: Bil Cartrefi mewn Parciau (Cymru).
O bryd i'w gilydd, rhaid i'r Llywydd gynnal balot i benderfynu ar enw Aelod, heblaw aelod o'r Llywodraeth, a gaiff ofyn am gytundeb y Cynulliad i gyflwyno Bil.
Rhaid i Aelod ddarparu gwybodaeth cyn y balot yn nodi bwriad y Bil arfaethedig.
Os bydd y Cynulliad yn cytuno i gyflwyno Bil o'r fath, gall enillydd y Balot ymgynghori ar ei gynigion cyn cyflwyno'r Bil yn ffurfiol.
Prif gerrig milltir | Manylion |
---|---|
Dyddiad y Ballot | 29 Tachwedd 2011 |
Y ddadl y cytunodd y Cynulliad ynddi y câi enillydd y Balot gyflwyno Bil, gan arwain at roi gwybodaeth cyn y balot | 1 Chwefror 2012 |
Ymgynghoriadau er mwyn llywio datblygiad y Bil: | Bil Safleoedd Rheoleiddiedig Cartrefi Symudol (Cymru) Ymgynghoriad
Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 20 Gorffennaf 2012 - Ymatebion i'r ymgynghoriad: Rhan 1 (PDF; 23.5MB), Rhan 2 (PDF; 6.98MB), Rhan 3 (PDF; 5.5MB) |
Dyddiad cyflwyno'r Bil yn ffurfiol | 24 Hydref 2012 |
Gwybodaeth am hynt ddeddfwriaethol y Bil wedi'i gyflwyno | Bil Cartrefi Symudol (Cymru) |
Cafodd y Bil hwn ei gynnig gyntaf fel y Bil Cartrefi mewn Parciau (Cymru).
Yn sgil ei gynnig yn llwyddo yn y balot, newidiodd Peter Black ei deitl i'r Bil Safleoedd Rheoleiddiedig Cartrefi Symudol (Cymru).
Yn ystod hynt ddeddfwriaethol y Bil, newidiwyd y teitl i'r Bil Cartrefi Symudol (Cymru).