Mae'r Senedd yn arsylwi cyfnod o alaru cenedlaethol yn dilyn marwolaeth Ei Mawrhydi Y Frenhines. Mae busnes y Senedd wedi'i ohirio ac ni fydd mynediad cyhoeddus i adeilad y Senedd tan ar ôl yr Angladd Gwladol.
Cawcws Menywod y Senedd
Mae Cawcws Menywod y Senedd, sy’n fforwm trawsbleidiol i Aelodau, yn dod â seneddwragedd o bob plaid at ei gilydd i ddarparu cymorth gan gymheiriaid ac i hybu cydraddoldeb rhywiol. Mae rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau diweddar y Cawcws ar gael isod.
Mae’r Cawcws yn cynnwys pob menyw sy’n Aelod o’r Senedd, dan gadeiryddiaeth Joyce Watson AS a Grŵp Llywio o gynrychiolwyr o bob plaid.