Mae'r Senedd yn arsylwi cyfnod o alaru cenedlaethol yn dilyn marwolaeth Ei Mawrhydi Y Frenhines. Mae busnes y Senedd wedi'i ohirio ac ni fydd mynediad cyhoeddus i adeilad y Senedd tan ar ôl yr Angladd Gwladol.
Diwrnod Rhyngwladol y Merched 2024
I ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched 2024, cynhaliodd y Senedd fore o weithgareddau ar gyfer ysgolion lleol, gan ganolbwyntio ar y thema Ysbrydoli Cynhwysiant. Roedd y rhaglen yn cynnwys:
- Trafodaeth banel wedi’i gadeirio gan Jess Hope Clayton gyda Jess Davies, Molly Fenton, a Taylor Edmonds
- Digwyddiad bord gron gyda Cawcws Menywod y Senedd
- Adborth a rhwydweithio
- Teithiau o'r Senedd a chyfleoedd i wylio’r Cyfarfod Llawn
Fel rhan o'r rhaglen, cymerodd aelodau o’r Cawcws ran mewn trafodaethau bord gron gyda myfyrwyr o Ysgol Uwchradd Fitzalan, Ysgol Uwchradd Gorllewin Caerdydd, Ysgol Gwent Is-Coed, Cantonian, Bro Edern, ac Ysgol Plasmawr. Seiliwyd y trafodaethau ar y cysylltiadau rhwng pwysigrwydd cydraddoldeb rhywiol, cynrychiolaeth ddemocrataidd ehangach a gwaith y Senedd, yn ogystal ag annog myfyrwyr i feddwl am ffyrdd y gallant ysbrydoli newid yn eu hysgolion a chymunedau lleol ac ehangach.
Gwahoddwyd holl aelodau'r Senedd i glywed adborth o weithgareddau'r bore, a bu rhai o Aelodau’r Cawcws yn tynnu sylw at y digwyddiad a’r sgyrsiau hynny yn eu cyfraniadau yn y Cyfarfod Llawn ar 12 Mawrth, fel rhan o ddatganiad y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod.
Mwy o wybodaeth
Manylion Cyswllt
Cysylltwch â Chawcws Menywod y Senedd
Senedd Cymru,
Bae Caerdydd,
Caerdydd
CF99 1SN
E-bost: llywydd@senedd.wales
Cadeirydd: Joyce Watson AS
Ar gyfer ymholiadau gan y cyfryngau, cysylltwch â Thîm Newyddion y Senedd.