Cyfarfodydd Llawn Cynnar yn dilyn un o Etholiadau'r Senedd

Cyhoeddwyd 01/12/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Bydd yr Aelod a oedd yn dal swydd y Llywydd yn syth cyn etholiad y Senedd (y Llywydd blaenorol) yn pennu dyddiad ac amser y Cyfarfod Llawn cyntaf, gan ymgynghori â’r grwpiau gwleidyddol. Os yw’r Llywydd blaenorol yn amharod i wneud hynny, neu os nad yw’n gallu gwneud hynny, Clerc y Senedd sydd i bennu’r dyddiad a’r amser. Y Llywydd sydd newydd ei ethol fydd wedyn yn pennu dyddiad ac amser pob Cyfarfod Llawn wedi hynny nes i’r Pwyllgor Busnes gael ei sefydlu (ac nes i’r datganiad a chyhoeddiad busnes gael ei roi yn y Cyfarfod Llawn gan y Gweinidog sy’n gyfrifol am fusnes y Llywodraeth). Bydd Clerc y Senedd yn hysbysu’r holl Aelodau o ddyddiad ac amser pob cyfarfod o leiaf 24 awr o flaen llaw. Caiff agenda pob Cyfarfod Llawn hefyd ei gyhoeddi o leiaf 24 awr o flaen llaw.

Canllaw i fusnes cynnar y Cyfarfod Llawn ar ôl etholiad mis Mai 2016


Ethol y Llywydd a'r Dirprwy Lywydd

Rhaid cynnal y Cyfarfod Llawn cyntaf o fewn saith niwrnod gwaith i’r etholiad, a hynny er mwyn ethol Llywydd a Dirprwy Lywydd. Bydd y trafodion yn dechrau drwy ethol Llywydd, ac wedyn caiff Dirprwy Lywydd ei ethol.


Enwebu'r Prif Weinidog

Mae gofyn i’r Senedd enwebu Prif Weinidog o fewn 28 niwrnod ar ôl etholiad Senedd.


Busnes cynnar dilynol

Rhaid i’r Senedd gytuno ar sawl eitem bwysig o fusnes yn fuan ar ôl yr etholiad, gan gynnwys:

  • penodi Aelodau i'r Pwyllgor Busnes;
  • penodi Comisiynwyr y Senedd;
  • argymhelliad y Prif Weinidog i'w Mawrhydi ynghylch y person sydd i'w
  • benodi'n Gwnsler Cyffredinol;
  • enwau a chylchoedd gwaith y pwyllgorau; ac
    aelodau a chadeirydd pob pwyllgor.