Mathau o Fusnes yn y Cyfarfod Llawn

Cyhoeddwyd 01/12/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/11/2024   |   Amser darllen munudau

Mae rhestr fanwl o'r holl eitemau busnes i'w gweld yn Agenda'r Cyfarfod Llawn sy'n cael ei bratoi ar gyfer pob cyfarfod. Dyma rai o'r eitemau a fydd ar yr Agenda:

  • cwestiynau i Weinidogion Cymru a Chomisiynwyr y Senedd;
  • datganiadau neu ddadleuon arbynciau a gynigir gan y Llywodraeth, y pleidiau gwleidyddol neu Aelodau unigol;
  • ystyried darnau o gyfraith sy'n effeithio ar Gymru

Cwestiynau

Gall Gweinidogion neu Gomisiynwyr y Senedd ateb cwestiynau a ofynnir iddynt ar lafar neu'n ysgrifenedig. Trefnir rota i Weinidogion pob un o adrannau'r llywodraeth ymddangos yn y Cyfarfod Llawn i ateb cwestiynau llafar. Bydd y Prif Weinidog yn ateb cwestiynau bob dydd Mawrth.

Datganiadau

Bydd Gweinidogion y Llywodraeth yn gwneud datganiadau llafar ac ysgrifenedig am faterion sydd o ddiddordeb ac o bwys i'r Cynulliad ac i'r bobl y mae'n eu cynrychioli. Caiff y Llywydd neu'r Dirprwy Lywydd, Comisiynwyr y Senedd neu ASau eraill sydd â chyfrifoldebau penodol (e.e. ASau sy'n cynnig deddfwriaeth) wneud datganiadau llafar hefyd.

Dadleuon a chynigion a gwelliannau

Mae'n bosibl trafod unrhyw beth sydd o ddiddordeb i Gymru a'i phobl  yn y Cyfarfod Llawn. Caiff Gweinidogion y Llywodraeth, Comisiynwyr y Senedd, y gwrthbleidiau neu Aelodau unigol gynnig dadleuon.

Gweithdrefnau deddfwriaethol yn y Siambr

Fel rheol, bydd unrhyw ddeddfwriaeth sy'n mynd ar ei hynt drwy'r Senedd yn cael ei hystyried o leiaf unwaith  yn y Cyfarfod Llawn.

Pleidleisio

Yn aml, cynhelir pleidlais i weld a yw mwyafrif yr Aelodau'n cefnogi ynteu'n gwrthod unrhyw gynigion a drafodir yn y Cyfarfod Llawn. Fel rheol, pleidlais electronig fydd hon.