Trafodion deddfwriaethol yn y Siambr

Cyhoeddwyd 01/12/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/11/2024   |   Amser darllen munudau

Fel rheol, wrth i ddeddfwriaeth fynd ar ei hynt drwy'r Senedd, bydd yn cael ei hystyried o leiaf unwaith yn y Cyfarfod Llawn. Bydd rhai mathau o is-ddeddfwriaeth, Biliau Senedd Cymru, a chynigion cydsyniad sy'n ymwneud â Biliau Senedd y Deyrnas Unedig, i gyd yn cael eu hystyried o leiaf unwaith yn y Siambr.

Is-ddeddfwriaeth

Mae Deddfau'r Senedd a Deddfau Senedd y Deyrnas Unedig yn galluogi Gweinidogion Cymru i greu deddfwriaeth fanylach, ac fe elwir y math hwn o ddeddfwriaeth yn ddeddfwriaeth eilaidd neu'n is-ddeddfwriaeth.

Y weithdrefn gadarnhaol

Rhaid i gyfran fach o'r is-ddeddfwriaeth bwysicaf gael ei chymeradwyo'n ffurfiol (y weithdrefn gadarnhaol) gan y Senedd yn y Cyfarfod Llawn cyn iddi gael ei rhoi ar waith.

Y weithdrefn negyddol

Mae'n bosib diddymu'r rhan fwyaf o Is-ddeddfwriaeth (y weithdrefn negyddol). Mae hyn yn golygu y daw'r ddeddfwriaeth i rym oni fydd un o'r Aelodau'n cyflwyno cynnig yn ei gwrthwynebu ("cynnig i ddiddymu") o fewn cyfnod penodol. Os bydd y Senedd yn derbyn y cynnig a gyflwynwyd yn erbyn y ddeddfwriaeth, ni fwrir ymlaen â'r ddeddfwriaeth honno.

Biliau

Cynnig ar gyfer cyfraith newydd yw Bil, neu gynnig i newid cyfraith sy'n bod eisoes. Bydd y cynnig yn cael ei gyflwyno gerbron y Senedd er mwyn cynnal dadl yn ei gylch. Fel rheol, ystyrir biliau mewn pwyllgor ac yn y Cyfarfod Llawn. Bydd y rhan fwyaf o Filiau'n mynd drwy'r camau hyn:

  • Cyfnod 1 - ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil a chytuno arnynt;
  • Cyfnod 2 - pwyllgor o Aelodau'r Senedd yn ystyried y Bil yn fanwl ynghyd ag unrhyw welliannau a gyflwynwyd;
  • Cyfnod 3 - y Cyfarfod Llawn yn ystyried y Bil yn fanwl ynghyd ag unrhyw welliannau a ddetholwyd
  • Cyfnod 4 - derbyn testun terfynol y Bil.

 

Cynigion Cydsyniad Deddfwriaethol

Pan fydd Senedd y Deyrnas Unedig am ddeddfu ar bwnc sydd eisoes wedi'i ddatganoli i'r Senedd, yn ôl y confensiwn, mae gofyn iddi gael cydsyniad y Senedd cyn derbyn y ddeddfwriaeth dan sylw. Rhoddir cydsyniad o'r fath drwy gytuno ar Gynnig Cydsyniad Deddfwriaethol (LCM) yn y Cyfarfod Llawn.