Cynnig 039 - Laura Anne Jones AS

Cyhoeddwyd 19/04/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/11/2024   |   Amser darllen munudau

Mae'r canlynol yn gynnig ar gyfer Bil Aelod a gyflwynwyd yn ystod y Chweched Senedd:

Aelod sy'n Cynnig:

Laura Anne Jones AS

Teitl y Bil Arfaethedig:

Bil Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb (Tryloywder)

Amcanion Polisi y Bil:

Y cynnig yw sefydlu Bil addysg cydberthynas a rhywioldeb, tryloywder a hawliau rhieni.

Diben y Bil fyddai:

  1. Rhagnodi’n gyfreithiol yr hawliau a ganlyn i rieni:
    • yr hawl i wybod pa addysg cydberthynas a rhywioldeb y mae eu plentyn yn ei chael;
    • yr hawl i dynnu eu plentyn o addysg cydberthynas a rhywioldeb.
  2. Atgyfnerthu’r egwyddorion hirsefydlog mai rhieni, nid y wladwriaeth, sy'n gwybod orau yn y mwyafrif helaeth o achosion.
  3. Atal ysgolion rhag defnyddio, at ddiben addysg cydberthynas, addysg rhyw neu addysg cydberthynas a rhywioldeb, unrhyw ddeunydd a gynhyrchir gan ddarparwr allanol oni bai bod y deunydd hwnnw wedi’i gyhoeddi ac ar gael i rieni.