Mae'r Senedd yn arsylwi cyfnod o alaru cenedlaethol yn dilyn marwolaeth Ei Mawrhydi Y Frenhines. Mae busnes y Senedd wedi'i ohirio ac ni fydd mynediad cyhoeddus i adeilad y Senedd tan ar ôl yr Angladd Gwladol.
Datblygu'r Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru)
Cyhoeddwyd 13/07/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau
- Enillydd y balot: Sam Rowlands AS, Cynnig 029, Bil Addysg Awyr Agored (Cymru)
O bryd i'w gilydd, rhaid i'r Llywydd gynnal balot i benderfynu ar enw Aelod, heblaw aelod o'r Llywodraeth, a gaiff ofyn am gytundeb y Senedd i gyflwyno Bil.
Rhaid i Aelod ddarparu "gwybodaeth cyn y balot" yn nodi bwriad y Bil arfaethedig.
Os bydd y Senedd yn cytuno i gyflwyno Bil o'r fath, gall enillydd y Balot ymgynghori ar ei gynigion cyn cyflwyno'r Bil yn ffurfiol.
Prif Gerrig Milltir | Manylion |
---|---|
Dyddiad y balot | 13 Gorffennaf 2022 |
Dadl lle bydd y Senedd yn trafod cyflwyno Bil i roi effaith i’r wybodaeth sydd wedi’i chynnwys yn y Memorandwm Esboniadol |
Memorandwm Esboniadol i'r cynnig a gyflwynwyd ar 17 Awst 2022 Y Cyfarfod Llawn, 26 Hydref 2022 Caniatâd i frwrw ati - Ie |
Ymgynghoriad |
Ar 31 Ionawr 2023, lansiodd Sam Rowlands AS ymgynghoriad ar ei gynnig am Fil Addysg Awyr Agored (Cymru), gan wahodd pobl i fynegi eu barn ar amcanion polisi'r gyfraith arfaethedig. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 17 Mawrth 2023. Mae Sam Rowlands hefyd wedi lansio ymgynghoriad i blant a phobl ifanc ar y Bil. Mae’r ymgynghoriad hwn yn gwahodd plant a phobl ifanc i ymgysylltu’n uniongyrchol ar y Bil a rhoi eu barn ar yr hyn y gallai’r gyfraith newydd ei wneud. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 23 Mehefin 2023. |
Bil Addysg Awyr Agored Preswyl (Cymru) Drafft |
Gan adeiladu ar yr amcanion polisi a'r ymgynghoriad cynharach, mae Sam Rowlands wedi datblygu Bil Addysg Awyr Agored Preswyl (Cymru) drafft (PDF, 92kb). Cyhoeddwyd y Bil drafft hwn, a chynhaliwyd ymgynghoriad penodol ar fanylion y Bil Drafft gyda rhanddeiliaid allweddol rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2023. |
Gwybodaeth am daith ddeddfwriaethol y Bil ar ôl ei Gyflwyno |
Craffu Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru) Cynhaliwyd dadl ar yr egwyddorion cyffredinol ar 17 Ebrill 2024. Gwrthodwyd y cynnig i dderbyn yr egwyddorion cyffredinol a gwrthodwyd y Bil gan y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.14. |
Enw gwreiddiol y Bil hwn oedd y Bil Addysg Awyr Agored (Cymru).
Yn dilyn yr ymgynghoriad cychwynnol a gynhaliwyd i lywio datblygiad y Bil, newidiodd Sam Rowlands ei deitl i’r Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru).