Mae'r Senedd yn arsylwi cyfnod o alaru cenedlaethol yn dilyn marwolaeth Ei Mawrhydi Y Frenhines. Mae busnes y Senedd wedi'i ohirio ac ni fydd mynediad cyhoeddus i adeilad y Senedd tan ar ôl yr Angladd Gwladol.
Datblygu'r Bil Bwyd (Cymru)
Cyhoeddwyd 22/09/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau
- Enillydd y balot: Peter Fox AS, Cynnig 018, Bil Bwyd (Cymru)
O bryd i'w gilydd, rhaid i'r Llywydd gynnal balot i benderfynu ar enw Aelod, heblaw aelod o'r Llywodraeth, a gaiff ofyn am gytundeb y Senedd i gyflwyno Bil.
Rhaid i Aelod ddarparu "gwybodaeth cyn y balot" yn nodi bwriad y Bil arfaethedig.
Os bydd y Senedd yn cytuno i gyflwyno Bil o'r fath, gall enillydd y Balot ymgynghori ar ei gynigion cyn cyflwyno'r Bil yn ffurfiol.
Prif Gerrig Milltir | Manylion |
---|---|
Dyddiad y balot | 22 Medi 2021 |
Dadl lle bydd y Senedd yn trafod cyflwyno Bil i roi effaith i’r wybodaeth sydd wedi’i chynnwys yn y Memorandwm Esboniadol |
Memorandwm Esboniadol i'r cynnig a gyflwynwyd ar 27 Hydref 2021 Y Cyfarfod Llawn – 17 Tachwedd 2021 Caniatâd i frwrw ati - Ie |
Ymgynghoriad ar Fil Bwyd (Cymru) drafft |
Ar 18 Gorffennaf 2022, lansiwyd ymgynghoriad ar Bil Bwyd (Cymru) drafft gan Peter Fox AS, gan wahodd pobl i roi sylwadau ar sut y mae’r gyfraith arfaethedig wedi cael ei drafftio. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 16 Medi 2022. |
Dyddiad Cyflwyno'r Bil |
12 Rhagfyr 2022 |
Gwybodaeth am daith ddeddfwriaethol y Bil ar ôl ei gyflwyno |
Cynhaliwyd dadl ar yr egwyddorion cyffredinol ar 24 Mai 2023. Gwrthodwyd y cynnig i dderbyn yr egwyddorion cyffredinol a gwrthodwyd y Bil gan y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.14. |