- Enillydd y balot: Mark Isherwood AS, Cynnig 033, Bil Iaith Arwyddion Prydain (BSL) (Cymru)
O bryd i'w gilydd, rhaid i'r Llywydd gynnal balot i benderfynu ar enw Aelod, heblaw aelod o'r Llywodraeth, a gaiff ofyn am gytundeb y Senedd i gyflwyno Bil.
Rhaid i Aelod ddarparu "gwybodaeth cyn y balot" yn nodi bwriad y Bil arfaethedig.
Os bydd y Senedd yn cytuno i gyflwyno Bil o'r fath, gall enillydd y Balot ymgynghori ar ei gynigion cyn cyflwyno'r Bil yn ffurfiol.
Prif Gerrig Milltir | Manylion |
---|---|
Dyddiad y balot |
24 Ebrill 2024 |
Dadl lle bydd y Senedd yn trafod cyflwyno Bil i roi effaith i’r wybodaeth sydd wedi’i chynnwys yn y Memorandwm Esboniadol
|
Memorandwm Esboniadol i'r cynnig a gyflwynwyd ar 31 Mai 2024 |
Caniatâd i frwrw ati |
Y Cyfarfod Llawn, 19 Mehefin 2024 |
Ymgynghoriad |
Ar 30 Medi 2024, lansiodd Mark Isherwood AS ymgynghoriad ar ei gynnig ar gyfer Bil Iaith Arwyddion Prydain (BSL) (Cymru), yn gwahodd pobl i roi eu barn ar amcanion polisi'r gyfraith arfaethedig. Disgwylir i'r ymgynghoriad ddod i ben ar 22 Tachwedd 2024 |