Deiseb i gefnogi teuluoedd sy'n colli plant neu bobl ifanc 25 oed neu iau yn annisgwyl.
“Ym mis Chwefror 2012, bu farw fy mab, George, yn sydyn mewn Uned Frys yng Nghymru. Fe gerddon ni allan i'r nos heb ddim, ar ein pennau'n hunain ac mewn braw. Ni ddaeth neb, nid oedd neb yno i estyn llaw, gan adael ffrindiau ac aelodau'r teulu, a hwythau mewn galar hefyd, i'm cynnal i a Paul fy ngŵr. Bum niwrnod ar ôl colli ein mab, bu'n rhaid i mi a'm dau blentyn ifanc arall wynebu torcalon eto pan wnaeth Paul ladd ei hun. Unwaith eto, ddaeth neb.” - Rhian Mannings, Deisebydd
Roedd y ddeiseb yn codi ymwybyddiaeth o’r materion a ganlyn:
- diffyg cymorth tymor byr a hirdymor i deuluoedd sy’n colli anwyliaid yn sydyn ac yn annisgwyl
- yr effaith ar iechyd meddwl teuluoedd sy’n galaru.
Beth ddigwyddodd?
- Trafodwyd y ddeiseb yn Siambr y Senedd ar 3 Tachwedd 2021.
- Addawodd Llywodraeth Cymru bron i £1.5 miliwn i fyrddau iechyd y GIG i helpu gyda gwaith cydgysylltu yn gysylltiedig â phrofedigaeth a gweithredu safonau profedigaeth.
- Cytunodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i weithio gyda’r deisebydd a’r elusen a sefydlodd i sicrhau bod lefel gyson o gymorth ar gael ledled Cymru.
Yr holl enwebiadau ar gyfer Deiseb y Flwyddyn 2022