Deiseb i wella gwasanaethau i gleifion canser y fron metastatig.
“Mae pobl sy’n byw â chanser y fron metastatig yng Nghymru yn cael eu hesgeuluso’n ddybryd gan y system. Ar hyn o bryd dim ond un nyrs glinigol arbenigol canser y fron neilltuedig sydd gan Gymru, sefyllfa a allai adael cannoedd o bobl heb ddigon o gymorth.” - Tassia Haines, Deisebydd.
Roedd y ddeiseb yn codi ymwybyddiaeth o’r materion a ganlyn:
- Diffyg nyrsys arbenigol ar gyfer y rhai sydd â chanser y fron metastatig, sy’n gadael cleifion heb ddigon o gefnogaeth.
- Diffyg data ar y rhai sy'n byw â chanser y fron metastatic ac sy’n cael eu trin ar ei gyfer.
Beth ddigwyddodd?
- Cafwyd dadl angerddol ac o’r galon yn y Senedd.
- Ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i archwilio gofal sylfaenol a gofal eilaidd canser y fron.
- Cyflwyno system gwybodaeth canser newydd i ganiatáu defnydd gwell fel mater o drefn o ddata sy'n ymwneud â chanser metastatig.
- Bydd Rhwydwaith Canser Cymru yn dechrau gweithio ar gyfres o lwybrau canser metastatig y cytunwyd arnynt yn genedlaethol, gan ddechrau gyda chanser y fron metastatig.
- Mae'r deisebydd, Tassia Haines, yn parhau i ymgyrchu dros nyrs arbenigol a gwell ansawdd gofal.
Gweld yr holl enwebiadau ar gyfer Deiseb y Flwyddyn 2023
Rhieni sydd wedi bod mewn gofal