Deiseb i wella gofal iechyd endometriosis yng Nghymru.
“Mae endometriosis yn difetha bywydau menywod a’u teuluoedd sy'n byw yng Nghymru gydag 1 o bob 10 yn dioddef o'r cyflwr. Nid yw achos endometriosis yn hysbys, nid oes gwellhad, yr amser diagnosis ar gyfartaledd yw wyth mlynedd a hanner ac mae rhestr aros chwe blynedd am driniaeth ar y GIG.” – Beth Hales, Deisebydd
Roedd y ddeiseb yn codi ymwybyddiaeth o’r materion a ganlyn:
- Diffyg dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o endometriosis.
- Mae endometriosis yn effeithio ar ofal iechyd ac addysg, ac ar lefelau economaidd, ariannol a chymdeithasol o'r gymdeithas.
Beth ddigwyddodd?
- Cafodd y Pwyllgor ohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a chan bob Bwrdd Iechyd.
- Mae'r Pwyllgor yn parhau i dynnu sylw at yr angen am ymchwil bellach, ac at bwysigrwydd ymgysylltu â phobl sydd â phrofiad o fyw wrth ddatblygu'r Cynllun Iechyd Menywod.
Gweld yr holl enwebiadau ar gyfer Deiseb y Flwyddyn 2023
Rhieni sydd wedi bod mewn gofal
Gofal canser y fron metastatig