Meysydd o ddiddordeb ymchwil: Deallusrwydd Artiffisial ac Economi Cymru

Cyhoeddwyd 24/04/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/11/2024   |   Amser darllen munudau

Sefydlwyd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig gan y Senedd i edrych ar bolisi a deddfwriaeth, ac i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif mewn meysydd penodol. Mae'r meysydd hyn yn cynnwys busnes, datblygu economaidd, sgiliau, masnach ryngwladol, amaethyddiaeth, pysgodfeydd a bwyd.

Mae’r Pwyllgor yn lansio Maes o Ddiddordeb Ymchwil ar Ddeallusrwydd Artiffisial ac Economi Cymru.

Mae ganddo ddiddordeb mewn archwilio:

  • Y cyfleoedd a’r risgiau economaidd posibl y gallai deallusrwydd artiffisial eu cyflwyno i Gymru, gan gynnwys sut y gallant amrywio fesul ardal a fesul sector;
  • I ba raddau y mae busnesau yng Nghymru yn defnyddio deallusrwydd artiffisial ac yn bwriadu gwneud hynny yn y dyfodol;
  • Effaith bosibl deallusrwydd artiffisial ar swyddi a gweithwyr yng Nghymru, a chamau gweithredu y gallai fod eu hangen gan y llywodraeth mewn ymateb; ac
  • Y sgiliau sy’n debygol o fod eu hangen o ganlyniad i ddefnydd cynyddol o ddeallusrwydd artiffisial, ac a oes gan Gymru yr adnoddau i ddarparu’r sgiliau hynny.

Anogir academyddion ar bob cam o’u gyrfa, sefydliadau ymchwil, ac arbenigwyr i gofrestru eu diddordeb yn y Maes hwn o Ddiddordeb Ymchwil, ychwanegu eu gwaith ymchwil presennol ac unrhyw waith ymchwil arfaethedig yn y meysydd pwnc hyn i gronfa’r Meysydd o Ddiddordeb Ymchwil, a chynnig cwestiynau y gallai’r Pwyllgor eu gofyn i Lywodraeth Cymru yn y byrdymor, y tymor canolig a’r hirdymor.

Bydd y Pwyllgor yn defnyddio’r wybodaeth a gasglwyd o dan gronfa’r meysydd o ddiddordeb ymchwil i gwmpasu a chefnogi ei waith yn y dyfodol.

Cofrestrwch eich arbenigedd a'ch mewnwelediadau ymchwil ar wella gofal iechyd