Mae'r Senedd yn arsylwi cyfnod o alaru cenedlaethol yn dilyn marwolaeth Ei Mawrhydi Y Frenhines. Mae busnes y Senedd wedi'i ohirio ac ni fydd mynediad cyhoeddus i adeilad y Senedd tan ar ôl yr Angladd Gwladol.
Canllaw i dystion
Cyhoeddwyd 18/06/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
Cynnwys
— Trosolwg
— Mynd i gyfarfod pwyllgor fel tyst
Mynd i gyfarfod pwyllgor fel tyst
Gall pwyllgorau’r Senedd gyfarfod fel a ganlyn:
- ar y safle, gyda'r holl gyfranogwyr mewn ystafell gyda'i gilydd
- mewn cyfarfod hybrid, gyda rhai cyfranogwyr yn ymuno ar-lein tra bod eraill mewn ystafell gyda'i gilydd
- mewn cyfarfod ar-lein, gyda'r holl gyfranogwyr yn ymuno â'r cyfarfod ar-lein
Caiff fformat y cyfarfod ei bennu gan bob pwyllgor unigol. Mae’r penderfyniad yn seiliedig ar ffactorau megis dewisiadau’r cadeirydd a’r aelodau, yn ogystal â’ch lleoliad, argaeledd ac anghenion fel tyst.
Os bydd pwyllgor yn penderfynu cyfarfod mewn lleoliad y tu hwnt i ystad y Senedd, bydd tîm clercio’r pwyllgor yn rhoi gwybod ichi.
Cysylltwch â thîm clercio'r pwyllgor os hoffech chi drafod yr hyn sydd well gennych ar gyfer ymuno â chyfarfod pwyllgor.
Canllawiau ar gyfer mynd i gyfarfod ar y safle
Canllawiau ar gyfer ymuno â chyfarfod ar-lein
Mynd i gyfarfod ar y safle
Cyrraedd ystad y Senedd
Fe ddylech chi gyrraedd 20 – 30 munud cyn dechrau'r cyfarfod.
I gael cyfarwyddiadau i ystad y Senedd a llwybrau trafnidiaeth gyhoeddus, gweler ein gwybodaeth ar gyfer ymweld.
Bydd tîm clercio’r pwyllgor yn rhoi gwybod a ddylech chi fynd i dderbynfa’r Senedd neu dderbynfa Tŷ Hywel.
Mynd trwy fesurau diogelwch
Bydd angen i fagiau, cotiau ac eitemau eraill fynd trwy broses ddiogelwch debyg i rai maes awyr, ac mae ymwelwyr yn cael eu gwirio gyda synwyryddion metel yn y fynedfa.
Am resymau diogelwch, ni ellir mynd â darnau mawr o fagiau i ystad y Senedd. Nid oes cyfleusterau storio ar gael ar y safle.
Unwaith y byddwch chi yn yr adeilad
Ewch i'r dderbynfa berthnasol a siaradwch â'n gwasanaethau ymwelwyr ar y ddesg flaen. Rhowch eich enw iddyn nhw, a pha bwyllgor yr ydych yn mynd iddo.
Byddwch rhywun yn mynd gyda chi i ardal lle gallwch chi aros, cyn mynd i mewn i'r ystafell bwyllgora. Bydd aelod o dîm clercio'r pwyllgor yn cwrdd â chi yno.
Os ydych chi'n rhedeg yn hwyr
Os ydych chi'n rhedeg yn hwyr, cysylltwch â thîm clercio'r pwyllgor wnaeth eich gwahodd, cyn gynted ag y gallwch.
Os ydych yn mynd i gyfarfod y tu allan i oriau agor arferol
Os ydych yn mynd i gyfarfod y tu allan i oriau agor arferol, bydd aelod o staff yn aros i'ch gadael i mewn.
Ar ddiwedd y cyfarfod
Unwaith y bydd y cadeirydd wedi nodi bod eich sesiwn dystiolaeth wedi dod i ben, byddwch yn cael eich tywys o'r ystafell gan aelod o dîm clercio'r pwyllgor.
Os yw’r cyfarfod yn parhau, a’ch bod chi eisiau ei wylio, rhowch wybod i’r aelod o dîm clercio’r pwyllgor, a bydd yn ceisio gwneud trefniadau ichi wylio o’r oriel gyhoeddus neu ar Senedd.tv.
Ymuno â chyfarfod ar-lein
Mae cyfarfodydd ar-lein yn drafodion ffurfiol y Senedd. Mae’n bwysig eich bod yn gwneud y canlynol:
- cyrraedd ar yr amser y gofynnir ichi fod yno
- bod yn barod i gymryd rhan fel petaech chi yno’n bersonol
- peidio â rhannu'r linc, na gofyn i unrhyw un arall ymuno â'r cyfarfod, oni bai eich bod wedi cytuno ar hyn gyda thîm clercio'r pwyllgor ymlaen llaw
Cyn y cyfarfod
Bydd y canlynol y digwydd cyn cyfarfod y pwyllgor:
- anfonir ID cyfarfod, cyfrinair, a linc atoch chi ar gyfer yr ap Zoom, neu web client;
- efallai y gofynnir ichi fod yn bresennol ar gyfer prawf yn y dyddiau cyn y cyfarfod, er mwyn gwneud yn siŵr bod yr holl offer yn gweithio'n gywir, ac yn bodloni'r gofynion ar gyfer darlledu cyfarfod y pwyllgor.
Os oes angen help arnoch chi i ymuno â chyfarfod ar-lein, cysylltwch â thîm clercio’r pwyllgor.
Os ydych chi'n rh
deg yn hwyr
Os ydych chi'n rhedeg yn hwyr, cysylltwch â thîm clercio'r pwyllgor wnaeth eich gwahodd, cyn gynted ag y gallwch.
Ymuno â’r cyfarfod
Wrth ymuno â chyfarfod pwyllgor, fe ddylech chi wneud y canlynol:
- ymuno ar yr amser y gofynnwyd ichi fod yno
- ymuno â'r cyfarfod o leoliad tawel, gyda chefndir plaen ar ddyfais sengl, yn hytrach nag ystafell fideo gynadledda
- defnyddio clustffon, i sicrhau ansawdd sain da i chi a'r pwyllgor
- peidio â defnyddio cefndiroedd rhithwir – os oes rhaid i chi ddefnyddio hidlydd, fe'ch anogir i niwlio'ch cefndir yn hytrach na defnyddio graffeg
- gwneud yn siŵr bod pob hysbysiad ar eich dyfais wedi'i dawelu er mwyn osgoi unrhyw ymyrraeth yn ystod y cyfarfod
- gwneud yn siŵr bod eich holl ddyfeisiau eraill wedi’u tawelu (e.e. sicrhewch bod eich ffôn symudol yn dawel ac, os ydych chi wedi bod yn dilyn trafodion ar Senedd.TV, gwnewch yn siŵr ei fod wedi'i ddiffodd cyn i chi ddod i mewn i'r cyfarfod)
- gwneud yn siŵr bod eich enw go iawn yn ymddangos fel eich enw Zoom, fel bod tîm clercio’r pwyllgor yn gwybod pwy ydych chi cyn eich gadael i mewn i’r cyfarfod
Ymuno â'r ‘ystafell aros’
Pan fyddwch chi’n cysylltu â'r cyfarfod, fe fyddwch chi’n cael eich rhoi mewn ‘ystafell aros’ (a elwir hefyd yn ‘lobi’). Fe fyddwch chi’n cael eich derbyn i'r cyfarfod gan dîm clercio’r pwyllgor, pan fydd y pwyllgor yn barod.
Bydd tîm clercio’r pwyllgor yn cadw mewn cysylltiad os ydynt yn rhagweld y byddwch yn aros am beth amser i gael eich derbyn.
Pan fyddwch yn yr 'Ystafell Aros' efallai y gofynnir i chi gadarnhau eich enw ac enw eich sefydliad. Mae hyn er mwyn sicrhau bod y tîm clercio ond yn derbyn y rhai sydd wedi cael gwahoddiad i gymryd rhan yn y cyfarfod.
Cysylltu â'r cyfarfod
Unwaith y cewch chi eich derbyn i'r cyfarfod bydd, y clerc neu'r cadeirydd yn gwneud y canlynol:
- profi eich meicroffon
- esbonio sut i gael mynediad at gyfieithu ar y pryd, os oes ei angen arnoch
- esbonio sut bydd y cyfarfod yn rhedeg, a rhoi cyfle ichi ofyn unrhyw gwestiynau olaf sydd gennych, o bosib
Ni fydd hynny’n cael ei ddarlledu. Fodd bynnag, bydd pawb arall sy’n cymryd rhan yn y cyfarfod, gan gynnwys aelodau’r Pwyllgor, yn gallu’ch clywed a'ch gweld chi.
Bydd angen ichi ddewis eich gosodiadau cyfieithu bob tro y byddwch chi’n dychwelyd i gyfarfod o'r ystafell aros.
Yn ystod y cyfarfod
Yn ystod y cyfarfod, fe ddylech chi wneud y canlynol:
- dilyn unrhyw gyfarwyddiadau a gewch chi gan y cadeirydd
- codi llaw corfforol i ddal sylw'r cadeirydd, os ydych chi eisiau siarad
Bydd eich meicroffon yn cael ei reoli gan dîm darlledu’r Senedd, felly nid oes angen ichi boeni am dewi a dad-dewi eich hun.
Byddwch yn ofalus o unrhyw reolaethau ar eich dyfeisiau a allai ddiystyru’r gosodiadau hyn yn lleol – gallai unrhyw sylwadau a wneir yn ystod trafodion gael eu clywed gan gyfranogwyr eraill, neu ymddangos ar y ffrwd darlledu.
Materion technegol
Os cewch chi broblem dechnegol yn ystod sesiwn fyw, fe fyddwch chi’n cael eich gwahodd i ystafell rithwir gan beiriannydd o’r Senedd.
Os bydd eich cysylltiad yn methu, ceisiwch ailymuno â'r cyfarfod cyn gynted ag y gallwch.
Os byddwch chi’n cael trafferth ailymuno, anfonwch e-bost at dîm clercio'r pwyllgor cyn gynted ag y gallwch, i'ch helpu i ailymuno.
Os cewch chi broblemau gyda'r ffrwd cyfieithu, rhowch wybod i'r cadeirydd cyn gynted ag y gallwch, a cheisiwch ail-ddewis eich gosodiadau cyfieithu.
Ar ddiwedd y cyfarfod
Unwaith y bydd y cadeirydd wedi nodi bod eich sesiwn dystiolaeth wedi dod i ben, dewiswch y botwm ar gyfer gadael y cyfarfod. Mae’n bosibl y bydd y cyfarfod ei hun yn parhau, ac fe allwch chi ei wylio ar Senedd.tv.