UN TÎM YDYM NI

Mae ein gwerthoedd yn sail i'n nodau strategol a'n blaenoriaethau. Maent yn diffinio’r hyn a wnawn a’r ffordd yr ydym yn ei wneud.

Mae'r ymddygiadau hyn yn llywio ein penderfyniadau a'r ffordd yr ydym yn ymwneud â'n cwsmeriaid ac â'n gilydd bob dydd. Dyma sut yr ydym yn meithrin cydberthnasau ac yn sicrhau mai'r Senedd yw'r lle gorau posibl i weithio.

Ein Gwerthoedd

 

Lisa Salkeld, aelod o rwydwaith REACH a “chynghorydd cyfreithiol”

Mae parch yn elfen hanfodol o weithle llwyddiannus. Fel staff, mae cyfrifoldeb arnom i gyfrannu at amgylchedd lle y gall pawb deimlo’n gyfforddus a’n bod yn cael ein gwerthfawrogi. Un ffordd bwysig o wneud hyn yw drwy ein amrywiaeth eang o rwydweithiau yn y gweithle sy’n cynnig amgylchedd cefnogol i’r staff. Rydw i wedi gweithio i’r Senedd ers 2008, ac o mhrofiad i, caiff eich barn ei hannog a’i chroesawu, beth bynnag eich cefndir, swydd neu adran. Rydw i wir yn teimlo fy mod yn cael fy ngwerthfawrogi a mod i’n rhan o un tîm mawr.

 

Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae amrywiaeth a chynhwysiant yn greiddiol i bopeth rydym yn ei wneud, gan ddwyn ynghyd ystod eang o safbwyntiau a phrofiadau i’n helpu i wneud penderfyniadau gwell.

  • Rydym am ddenu a datblygu grŵp amrywiol o bobl i weithio yn y Senedd.
  • Rydym wedi ymrwymo i recriwtio teg a thryloyw ac i ddatblygu ein holl staff i alluogi pawb sy'n gweithio i ni i wireddu eu potensial llawn.
  • Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan bawb, gan gynnwys grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol ar hyn o bryd yn ein gweithlu, fel pobl o gefndiroedd Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig a phobl anabl.
  • Byddwn yn sicrhau cyfle cyfartal yn ein gweithle ac ni fyddwn yn goddef gwahaniaethu ar sail oedran, anabledd, hunaniaeth o ran rhywedd, crefydd neu gred, hil neu genedl, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, patrwm gwaith, cyfrifoldebau gofal, gweithgarwch undebau llafur neu gredoau gwleidyddol - nac ar unrhyw sail arall.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalennau Amrywiaeth a Chynhwysiant.

Rhwydweithiau Cydraddoldeb yn y Gweithle

Mae ein Rhwydweithiau Cydraddoldeb yn y Gweithle yn ein helpu i hyrwyddo cydraddoldeb, meithrin cysylltiadau da a dileu gwahaniaethu mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys:

  • rhoi cyngor ar faterion yn ymwneud ag amrywiaeth, cynhwysiant a chydraddoldeb ac
  • asesu effaith polisïau i sicrhau eu bod yn deg ac yn gynhwysol.

Cydnabyddiaeth a gwobrau allanol

Rydym wedi cael amrywiaeth o wobrau a chydnabyddiaeth allanol am ein hymrwymiad i'n staff ac am hybu amrywiaeth a chynhwysiant yn ein gweithle:

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalennau Cydnabyddiaeth a Awobrau Allanol.