Gyfarwyddiaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu

Cyhoeddwyd 19/08/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/11/2024   |   Amser darllen munudau

Mae Gyfarwyddiaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu yn darparu’r gwasanaethau canlynol:

  • Ysgrifenyddiaeth y Comisiwn; Ysgrifenyddiaeth y tîm Arwain;
  • Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd Rheoli;
  • Cymorth i’r Llywydd ac i’r Dirprwy Lywydd;
  • Cymorth i’r Prif Weithredwr a’r Clerc ac i’r Cyfarwyddwyr;
  • Ysgrifenyddiaeth y Pwyllgor Taliadau;
  • Cymorth Busnes i’r Aelodau;
  • Gwasanaethau Ymwelwyr a Lleoliadau Seneddol
  • Gwasanaeth cyswllt a datblygu proffesiynol i’r Aelodau a’u staff; 
  • Y tîm Cyfathrebu; a
  • Y Gwasanaeth Cyfieithu a Chofnodi

Ysgrifenyddiaeth y Comisiwn

Mae’r ysgrifenyddiaeth yn trefnu cyfarfodydd y Comisiwn, yn comisiynu papurau, yn paratoi ac yn cyhoeddi’r cofnodion. Mae gan Gomisiynwyr unigol gyfrifoldebau portffolio dros agweddau penodol ar waith staff y Comisiwn, ac mae’r ysgrifenyddiaeth yn eu cynorthwyo yn y cyswllt hwn drwy drefnu cyfarfodydd ac ymweliadau yn ôl y galw.

Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd Gweithredol a’r Tîm Arwain

Mae’r ysgrifenyddiaeth yn trefnu cyfarfodydd, yn comisiynu papurau ac yn paratoi’r cofnodion.

Cymorth i’r Llywydd a’r Dirprwy Lywydd

Mae hyn yn cynnwys rheoli dyddiaduron y Llywyddion, cysylltu â’u swyddfeydd etholaethol, delio â phob gohebiaeth, comisiynu cyngor ac atebion drafft gan feysydd cyfrifoldeb eraill, comisiynu nodiadau ar gyfer areithiau, a chysylltu ag Ysgrifenyddiaeth Cabinet Llywodraeth Cymru yn ôl y galw.

Cymorth i’r Prif Weithredwr a’r Cyfarwyddwyr

Mae’r rôl yn cynnwys rheoli dyddiaduron y Prif Weithredwr a’r Cyfarwyddwyr, cydgysylltu gohebiaeth a chomisiynu cyngor yn ôl y galw.

Ysgrifenyddiaeth y Pwyllgor Cynghori ar Daliadau, Ymgysylltu a’r Gweithlu

Mae’r ysgrifenyddiaeth yn trefnu cyfarfodydd, yn comisiynu papurau, yn clercio cyfarfodydd, yn paratoi’r cofnodion, yn cysylltu â’r aelodau annibynnol ac yn eu cynghori.

Cymorth Busnes i’r Aelodau

Mae’r tîm yn rhoi cyngor ac arweiniad i Aelodau o’r Senedd a’u staff cymorth ynghylch pob agwedd ar y cymorth ariannol sydd ar gael i’r Aelodau i’w helpu gyda’u gwaith fel cynrychiolwyr etholedig. Mae’r tîm Cymorth Busnes i’r Aelodau hefyd yn gyfrifol am roi cyngor ac arweiniad i’r Aelodau o safbwynt eu rôl fel cyflogwyr.

Gwasanaethau Ymwelwyr a Lleoliadau Seneddol

O'r cyswllt cyntaf â'r Senedd, boed hynny drwy'r switsfwrdd, y dderbynfa neu unrhyw gyswllt arall â'r tîm Cyswllt Cyntaf, ein nod yw sicrhau croeso cynnes a llety sy'n adlewyrchu statws y Senedd ac sy'n diwallu ei anghenion busnes.

I gynorthwyo ein hamrywiaeth o gwsmeriaid, gan gynnwys Aelodau o'r Senedd a'u staff Cymorth, staff y Comisiwn a'r cyhoedd, mae ein tîm Cyswllt Cyntaf yn darparu ystod eang o wasanaethau sy'n hanfodol er mwyn cynnal busnes y Senedd.

Tîm Dysgu ac Ymgysylltu ag Aelodau

Datblygu a chydgysylltu cyfleoedd i’r Aelodau a’u staff ddatblygu’n broffesiynol.

Cyfathrebu

Y tîm Cyfathrebu sy'n gyfrifol am arwain gwaith cyfathrebu mewnol ac allanol.

Cyfieithu a Chofnodi

Y tîm Cyfieithu a Chofnodi sy’n sicrhau bod yr holl fusnes ffurfiol yn gweithredu’n llyfn.