Elin Jones AS

Elin Jones AS

Cyfle Gwaith: Gweithiwr Achos i Elin Jones AS

Cyhoeddwyd 09/10/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/11/2024   |   Amser darllen munudau

Gweithiwr Achos i Elin Jones AS

Ystod cyflog:£26,153 - £38,039 pro-rata

Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd cyflog uchaf y raddfa ar gyfer eu band.

Oriau gwaith: 37 awr llawn-amser (ystyrir oriau hyblyg)

Lleoliad: Lleoliad y Swyddfa Etholaeth: 32 Heol y Wig, Aberystwyth, SY23 2LN. (Ystyrir gweithio hyblyg/o adre).

Natur y penodiad: Parhaol

Cyf: MBS-035-24

Diben y swydd

Prif rôl y Gweithiwr Achos fydd gweithio'n agos gydag etholwyr Ceredigion i'w cynorthwyo gydag amrywiaeth o broblemau. Bydd trafod ar y ffôn ac ar ebost gyda phobol Ceredigion yn allweddol i’r swydd ac yna cyd-weithio gyda Elin a’r tîm i ddod o hyd i ddatrysiadau.

Yn ogystal â chefnogi Elin yn ei swydd, bydd y Gweithiwr Achos hefyd yn mynychu cyfarfodydd, yn ymchwilio ac yn ymateb i ymholiadau, gan weithio fel rhan allweddol o'r tîm.

Prif ddyletswyddau

  1. Ymateb i ymholiadau gan etholwyr.
  2. Rheoli a chynnal system gwaith achos gan sicrhau bod pob achos yn cael ei logio; monitro'r cynnydd a wneir a sicrhau bod yr holl gamau gweithredu a nodir yn cael eu cymryd.
  3. Digideiddio hen waith achos, a chael gwared o’r ffeiliau copiau caled o’r swyddfa yn unol a’r rheolau gwarchod data, erbyn 2026.
  4. Drafftio llythyron, nodiadau briffio ac unrhyw ddogfennau eraill ar ystod o faterion ar gais yr Aelod o’r Senedd.

Gwybodaeth a Phrofiad Hanfodol

  • Y gallu i weithio ac ysgrifennu i safon uchel yn y Gymraeg a’r Saesneg.
  • Y gallu i wneud gwaith gweinyddol ac i weithio yn ddigidol
  • Gwybodaeth am faterion sy'n berthnasol i'r ardal leol, a dealltwriaeth ohonynt
  • Dealltwriaeth o'r angen i fynd i'r afael â gwahaniaethu ac i hyrwyddo cyfle cyfartal ac egwyddorion Nolan ar gyfer bywyd cyhoeddus, ac ymrwymiad iddynt

Cymwysterau Hanfodol

  • Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol; neu
  • Cymhwyster NVQ lefel 3 neu 4 neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol; neu
  • Dystiolaeth o sgiliau rhifedd a llythrennedd e.e. TGAU Saesneg a Mathemateg (neu gymwysterau cyfatebol).

Fe'ch cynghorir i ddarllen Manyleb y Swydd a'r Person yn llawn cyn gwneud cais am y swydd hon

Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais, anfonwch ffurflen gais i Branwen.Davies@senedd.cymru

Dyddiad cau: 13:00,  8 Tachwedd 2024

Dyddiad cyfweliad: 15 Tachwedd 2024