Swyddog Cyfathrebu a Gweinyddol i Jenny Rathbone AS
Ystod cyflog: £23,742 - £31,798 pro-rata
Disgwylir i'r holl staff newydd ymuno ar isafswm graddfa'r band cyflog priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa gynyddrannol un pwynt ar y tro bob blwyddyn, ar y dyddiad dechrau eu cyflogaeth, nes iddynt gyrraedd uchafswm y raddfa ar gyfer eu band cyflog.
Oriau gwaith: 29.6 (4 diwrnod yr wythnos)
Lleoliad: Swyddfa'r Etholaeth
Natur y penodiad: Parhaol.
Cyf: MBS-034-24
Diben y swydd:
Darparu cefnogaeth cyfathrebu, cyswllt cymunedol a chefnogaeth weinyddol i’r Aelod; mae angen safon uchel o ran cyfrinachedd.
Prif ddyletswyddau:
- Cynnal presenoldeb yr Aelod ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol fel Twitter a Facebook.
- Cadw dyddiadur apwyntiadau i'r Aelod, paratoi ymatebion drafft i ohebiaeth arferol, a dethol a threfnu papurau ar gyfer cyfarfodydd.
- Ymateb i ymholiadau gan etholwyr, gwleidyddion eraill, y cyfryngau, lobïwyr a grwpiau pwyso.
- Drafftio taflenni, llythyrau postio uniongyrchol, a fideos hyrwyddo.
Gwybodaeth a phrofiad hanfodol:
- Dealltwriaeth o Egwyddorion Bywyd Cyhoeddus Nolan ac ymrwymiad iddynt.
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o gyfathrebu ar draws ystod o blatfformau, gan gynnwys meddalwedd cyhoeddi bwrdd gwaith.
- Profiad addas o waith gweinyddol a gwybodaeth am systemau swyddfa
Cymwysterau Hanfodol
- Cymhwyster NVQ lefel 3 neu 4, neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol; neu
- Tystiolaeth o sgiliau rhifedd a llythrennedd e.e. TGAU Saesneg a Mathemateg (neu gymwysterau cyfatebol) Gradd C neu uwch.
Fe'ch cynghorir i ddarllen Manyleb y Swydd a'r Person yn llawn cyn gwneud cais am y swydd hon
Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais, anfonwch ffurflen gais i Alex.Sims@senedd.cymru
Dyddiad cau: 13:00, 6 Tachwedd 2024
Dyddiad cyfweliad: 13 Tachwedd 2024