Swyddog Cyswllt Cymunedol i Vaughan Gething AS
Ystod cyflog: (pro rata) £24,243 - £31,798
Disgwylir i'r holl staff newydd ymuno ar isafswm graddfa'r band cyflog priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa gynyddrannol un pwynt ar y tro bob blwyddyn, ar y dyddiad dechrau eu cyflogaeth, nes iddynt gyrraedd uchafswm y raddfa ar gyfer eu band cyflog.
Oriau gwaith: 14.8 awr (2 ddiwrnod)
Natur y penodiad: Cyfnod Penodol yn diweddu 31 Mawrth 2025
Lleoliad: Tŷ Hywel a Swyddfa'r Etholaeth
Cyfeirnod:MBS-038-24
Diben y swydd
I ddarparu gwasanaeth ysgrifenyddol/cymorth gweinyddol i’r Aelod o’r Senedd gan sicrhau bod safonau cyfrinachedd yn cael eu cynnal.
Gobeithiwn y bydd hwn yn rhoi cyfle i’r ymgeisydd ddysgu mwy ynglyn â'r prosesau y tu ôl i’r penderfyniadau a chyfreithiau a sefydlwyd yn y Senedd. Bydd y rôl hefyd yn cynnig cipolwg i mewn i’r math o waith sy’n digwydd mewn swyddfa MS.
Prif ddyletswyddau
Bydd y prif ddyletswyddau’n cynnwys y canlynol (Fel amod o’ch cyflogaeth efallai y bydd gofyn i chi gyflawni dyletswyddau eraill a/neu amseroedd gwaith rhesymol eraill, sy’n gymesur â’ch graddfa neu lefel gyffredinol o gyfrifoldeb o fewn y sefydliad.)
- Cynnal system ffeilio, cysylltu papurau blaenorol â gohebiaeth gyfredol, a dod o hyd i ddogfennau ar gais
- Ateb y ffôn, cymryd negeseuon ac ymdrin ag ymholiadau a cheisiadau fel sy’n briodol
- Didoli post sy’n dod i mewn yn ôl trefn blaenoriaeth a pharatoi atebion drafft i ohebiaeth arferol
- Ymchwilio i faterion a godwyd mewn gohebiaeth etholaethol a dilyn achosion o’r fath, gan sicrhau eu bod yn cael eu datrys mewn pryd
Manyleb y Person
- Rhywfaint o brofiad o waith gweinyddol a gwybodaeth am systemau swyddfa, ee systemau llaw a chyfrifiadurol
- Dealltwriaeth o frwydro yn erbyn gwahaniaethu a hyrwyddo cyfle cyfartal, ac Egwyddorion Bywyd Cyhoeddus Nolan ac ymrwymiad i hynny.
- Gwybodaeth am faterion sy’n ymwneud â’r ardal leol, a dealltwriaeth ohonynt.
Cymwysterau hanfodol
- Gweithio tuag at gymhwyster ffurfiol mewn pwnc cysylltiedig, neu;
- Sgiliau rhifedd a llythrennedd amlwg e.e. TGAU Saesneg a Mathemateg (neu gymwysterau cyfatebol) gradd C neu’n uwch.
Sgiliau ac ymddygiadau hanfodol
-
- Sgiliau trefnu a chynllunio effeithiol
- Y gallu i weithio ar ei liwt ei hun ac i derfynau amser tyn, gyda’r gallu i weithio’n hyblyg ac i ymdopi ag amrywiaeth o dasgau ar yr un pryd
- Sgiliau rhyngbersonol effeithiol a’r gallu i ymdrin ag amrywiaeth o bobl
Dymunol
- Dealltwriaeth o faterion cyfoes a phynciau sy’n berthnasol i Gymru a’r ardal leol, a diddordeb yn system wleidyddol Cymru
- Y gallu i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg
- Yn arddel nodau a gwerthoedd y Blaid
Fe'ch cynghorir i ddarllen Manyleb y Swydd a'r Person yn llawn cyn gwneud cais am y swydd hon
Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais, anfonwch ffurflen gais i Vaughan.Gething@Senedd.Cymru
Dyddiad cau: 12:00, 10 Ionawr 2025
Dyddiad cyfweliad: 20 Ionawr 2025