Uwch-swyddog Cyfathrebu i Cefin Campbell AS
Ystod Cyflog: £30,520 - £42,811 pro rata
Mae disgwyl i'r holl staff newydd ddechrau ar isafswm graddfa'r band cyflog priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.
Oriau Gweithio: 37
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Caerfyrddin
Cyfeirnod:MBS-037-24
Pwrpas y Swydd
Rheoli gwaith sy'n gysylltiedig â'r wasg a'r cyfryngau i'r Aelod Senedd.
Prif ddyletswyddau
- Sefydlu a datblygu cysylltiadau cadarn gyda’r wasg a'r cyfryngau darlledu ac ar-lein er mwyn hyrwyddo gwaith yr Aelod o’r Senedd.
- Monitro’r cyfryngau yn effeithiol, gan gynnwys sefydliadau print, darlledu ac ar-lein.
- Cynnal trafodaethau gyda'r Aelod o’r Senedd/ Rheolwr Swyddfa gan roi sylw i unrhyw agweddau ar eu gwaith a allai fod o ddiddordeb i'r cyfryngau.
- Gwneud gwaith ymchwil ar gyfer datganiadau i'r wasg, datganiadau eraill ac erthyglau i'r cyfryngau, eu paratoi a'u hysgrifennu.
Gwybodaeth a phrofiad hanfodol
- Profiad sylweddol o weithio'n effeithiol yn niwydiant y wasg ysgrifenedig, y byd darlledu neu ar-lein, neu yn y sector cysylltiadau cyhoeddus - yn ddelfrydol mewn amgylchedd gwleidyddol neu amgylchedd tebyg.
- Profiad o ddatblygu strategaethau cyfathrebu a'u rhoi ar waith, ynghyd â phrofiad o drefnu ymgyrchoedd yn y cyfryngau.
- Gwybodaeth am dechnegau o ymdrin â'r cyfryngau, gan gynnwys llunio datganiadau i'r wasg, a dealltwriaeth ohonynt.
Cymwysterau hanfodol
- Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol; neu
- Cymhwyster ffurfiol, er enghraifft cymhwyster NVQ lefel 4 neu gymhwyster cyfwerth.
- Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon.
I gael manylion am y swydd ac i geisio am y swydd, cysylltwch â Cefin.Campbell@senedd.cymru
Dyddiad cau: 23:30, 7 Tachwedd 2024
Dyddiad cyfweliad: Dydd Gwener 15 Tachwedd 2024